Mae cyn-golwr oedd wedi chwarae i nifer o dimau pêl-droed yng Nghymru yn gobeithio helpu cricedwyr y dyfodol ar ôl cael ei benodi’n hyfforddwr gydag Academi Clwb Criced Morgannwg.

Yn ystod ei yrfa ar y cae pêl-droed, chwaraeodd Walton i Gaerdydd, Wrecsam, Merthyr Tudful a’r Barri, yn ogystal â llu o glybiau eraill gan gynnwys Norwich, Bolton, Fulham a Brighton.

Treuliodd e dair blynedd gyda’r Adar Gleision rhwng 2000 a 2003, ond fe ddaeth ei awr fawr yn y gôl i Norwich yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Sunderland yn 1992, flwyddyn ar ôl ennill ei unig gap i dîm dan 21 Cymru.

Ei swydd newydd

Ac yntau’n gefnogwr a chwaraewr criced ar hyd ei oes, bydd Mark Walton yn gyfrifol am dimau ieuenctid yr Academi a’r llwybrau datblygu ar ôl i Glwb Criced Morgannwg gymryd y cyfrifoldeb oedd yn arfer bod yn nwylo Criced Cymru.

Rhan o’i waith fydd cefnogi hyfforddwyr eraill i gyflwyno rhaglenni hyfforddiant i feithrin doniau cricedwyr y dyfodol.

Bydd e hefyd yn gweithio gyda’r cricedwyr proffesiynol o fewn y clwb o ran eu datblygiad a’u perfformiadau.

“Dw i wedi bod yn angerddol am griced erioed,” meddai wrth wefan Clwb Criced Morgannwg.

“Dw i wedi chwarae erioed ond fe ddaeth hynny’n fwy ysbeidiol pan wnes i ganolbwyntio ar bêl-droed, ond ro’n i bob amser yn trio chwarae gêm fan hyn a fan draw, yn aml yng nghanol yr wythnos.

“Fe wnes i chwarae rhywfaint o griced cynghrair yn Norfolk, Essex a Chymru ac fe wnes i allu cynrychioli tîm Siroedd Llai Cymru.

“Yna, ryw ugain mlynedd yn ôl, fe wnes i ddigwydd mynd i fyd hyfforddi ac mae wedi datblygu o hynny a dw i wedi hyfforddi pob ystod oedran o fewn Criced Cymru.”

Adnabod a datblygu chwaraewyr

Yn ôl Mark Walton, bydd y ffaith fod gan Forgannwg gyfrifoldeb am y llwybrau’n golygu y bydd mwy o gyfleoedd i’r clwb ddatblygu chwaraewyr y dyfodol.

“Dydy e ddim yn mynd i ddigwydd dros nos, ond mae yna griw da iawn yn dod drwodd yn yr Academi ac mae’n fater o weithio’n galed iawn gyda’r chwaraewyr ifainc o 11 oed i gael y pethau mwyaf sylfaenol yn iawn a gobeithio ymhen blynyddoedd y bydd gyda ni system yn creu trosiant.

“Mae digon o allu yma ond mae llawer o gynhwysion yn mynd i mewn i gael y gallu i flodeuo a dyna waith y clwb mewn gwirionedd.”

Atgofion ar y cae pêl-droed

Mae’n dweud bod cael bod yn rhan o Glwb Pêl-droed Caerdydd pan oedden nhw ar i fyny ar ddechrau’r 2000au yn “brofiad gwych”.

“Fe ges i amser da iawn gyda Chaerdydd,” meddai.

“Fe wnes i ymuno â’r system pan o’n i ryw 30 oed ac fe wnaeth y clwb ddatblygu’n gyflym iawn yn ystod fy nghyfnod yno.

“Roedd gweld twf y clwb o fod yn un oedd yn ei chael hi’n anodd o ran cael eu cymryd drosodd i sut wnaeth e ddatblygu yn brofiad gwych ac ro’n i fwy na thebyg yn ddigon hen i werthfawrogi’r cyfeiriad roedd yn mynd iddo a pha mor gyflym ddaeth hynny.”

Mae’n dweud bod ei gefndir yn y byd pêl-droed yn ei helpu i sylweddoli bod pawb yn wahanol, a bod angen defnyddio dulliau gwahanol i feithrin eu doniau.

“Mae’n teimlo fel amser maith yn ôl erbyn hyn, ond roedden nhw’n ddyddiau da,” meddai am ei yrfa bêl-droed.

“Rydych chi’n cwrdd â phobol amrywiol ac o fewn y swydd hon, rhywbeth dw i’n gobeithio dod â fe iddi yw’r ffaith fod pobol yn gweithredu mewn ffyrdd amrywiol iawn ac mae’n fater o werthfawrogi hynny a cheisio cael y gorau o’r chwaraewyr.

“Yn Norwich, roedd yn wych cael bod ochr yn ochr â nifer o chwaraewyr rhagorol a’u gwylio nhw wrthi a sut roedden nhw’n mynd o gwmpas eu pethau.

“Fe gawson ni sawl buddugoliaeth dda y flwyddyn honno ac roedden ni un cam i ffwrdd o’r gêm fwyaf oll ond yn drist iawn, fe wnaethon ni gwympo’n agos iawn i’r glwyd olaf.

“Mae’n atgof wna i fyth ei anghofio ac wrth feddwl amdano, mae’n brofiad da iawn oherwydd gallwch chi helpu pobol sy’n mynd trwy bethau tebyg.

“Roedd Brighton yn debyg iawn i Gaerdydd. Roedden nhw wedi cwympo ond yn ailadeiladu felly mae hynny’n dysgu nifer o wersi i chi wrth i chi feddwl a dw i’n credu bod hynny’n hanfodol i allu helpu chwaraewyr nawr.

“Mae chwaraeon yn cynnig cymaint i bobol ond mae yna ochr arall bob amser lle mae’n rollercoaster emosiynol.

“Hoffwn i feddwl y galla i helpu chwaraewyr sy’n mynd trwy bethau tebyg.”