Mae’n bryd rhoi’r gorau i fwio Gerwyn Price, yn ôl y sylwebydd dartiau Wayne Mardle.

Daw ei sylwadau ar Twitter ar ôl i’r Cymro, pencampwr byd cynta’r PDC o Gymru, ymddangos ar y rhaglen bêl-droed Soccer A.M. ar Sky Sports.

Dywed y Sais y gall y Cymro “agor apêl dartiau i fwy [o bobol] nag erioed efallai”.

Mae’r Cymro wedi bod yn gymeriad dadleuol ar hyd y blynyddoedd, gyda sawl ffrae â gwrthwynebwyr yn gysgod tros gemau, nid lleiaf Gary Anderson, yr Albanwr y gwnaeth ei guro i ennill Pencampwriaeth y Byd.

Mae hynny’n golygu ei fod e hyd yn oed yn llwyddo i hollti barn dilynwyr dartiau yng Nghymru.

Barn Wayne Mardle

“Ar ôl gwylio Gerwyn Price ar @SoccerAM, dw i hyd yn oed yn fwy argyhoeddedig y gall e agor i fyny apêl dartiau i fwy [o bobol] nag erioed efallai,” meddai Wayne Mardle.

“Mae e’n edrych fel y boi, yn siarad yn dda, ac mae ganddo fe bersonoliaeth.

“A fe yw Pencampwr y Byd a Rhif 1 y Byd.

“[Mae’n] bryd i’r bois bwio ddiflannu am byth.”

Gerwyn yn anelu at aros yn rhif un

Alun Rhys Chivers

Y Cymro yw chwaraewr dartiau gorau’r byd, ac mae yn benderfynol o gadw pethau felly