Mae’r ymosodwr Max Watters wedi ymuno â Chaerdydd o Crawley am ffi o ryw £1m.

Mae’r chwaraewr 21 oed wedi llofnodi cytundeb tair blynedd, fydd yn ei gadw gyda’r Adar Gleision tan haf 2024.

Sgoriodd e 16 o goliau mewn 19 o gemau i Crawley ar ôl ymuno â nhw ym mis Hydref.

Yn ôl Max Watters, roedd y cyfle i fyw yng Nghymru’n ffactor yn ei benderfyniad.

“Mae Cymru’n lle hyfryd i fyw, felly fe ddaeth i lawr i hynny mewn gwirionedd,” meddai.

“Fel ymosodwr, rhaid i chi sgorio goliau, a dyna dw i yma i’w wneud.”

Fe allai chwarae am y tro cyntaf yng nghrys yr Adar Gleision wrth iddyn nhw herio Doncaster nos Fercher (Ionawr 20).