Colli o 2-1 gartref yn erbyn Norwich oedd hanes tîm pêl-droed Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 16).
Mae’r canlyniad yn golygu bod Norwich wedi ymestyn eu mantais dros Abertawe ar frig y Bencampwriaeth i saith pwynt, ond mae’r Elyrch yn herio Barnsley oddi cartref heno.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn y drydedd munud wrth i Grant Hanley benio’r bêl i gornel chwith ucha’r rhwyd oddi ar gic gornel.
Dyblodd y Caneris eu mantais ar ôl 21 munud, wrth i Todd Cantwell ergydio â’i droed chwith o ymyl y cwrt cosbi ar ddiwedd gwrthymosodiad er gwaethaf ymdrechion Alex Smithies yn y gôl i Gaerdydd.
Aeth yr Adar Gleision i lawr i ddeg dyn yn yr ail hanner, gyda Marlon Pack yn cael ei gosbi y naill ochr a’r llall i gôl yr Adar Gleision.
Cafodd Pack gerdyn melyn ar ôl 53 munud am dacl flêr, cyn cael ei anfon o’r cae am ail dacl flêr, y tro hwn ar y capten Oliver Skipp.
Erbyn hynny, roedd Caerdydd wedi taro’n ôl, ar ôl 70 munud, drwy Joe Ralls o ddeuddeg llathen ond roedd gormod o waith gan ddeg dyn Neil Harris i’w wneud.