Mae Wrecsam wedi curo Dover ar y Cae Ras am y tro cyntaf erioed, gyda buddugoliaeth o 3-1 yn y Gynghrair Genedlaethol.

Mae tîm Dean Keates yn codi i’r wythfed safle.

Aethon nhw ar y blaen drwy Reece Hall-Johnson ar ôl rhediad campus ar ei ben ei hun.

Ond fe wnaeth yr ymwelwyr unioni’r sgôr cyn yr egwyl yn dilyn peniad Ahkeem Rose oddi ar gic rydd Jack Munns.

Aethon nhw ar y blaen eto drwy beniad Fiacre Kelleher cyn i Luke Young rwydo o’r smotyn ar ôl tacl flêr ar Kwame Thomas gan y golwr Yusuf Mersin yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau.