Fe wnaeth deg dyn tîm pêl-droed Casnewydd golli cyfle i godi i frig yr Ail Adran, wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Salford yn Rodney Parade.

Aeth yr Alltudion i lawr i ddeg dyn ar ôl 58 munud, pan gafodd y chwaraewr canol cae Josh Sheehan gerdyn coch am dacl â’i ddwy droed ar Ash Hunter.

Fe wnaeth hynny ychwanegu at broblemau tîm Mike Flynn, oedd wedi colli’r amddiffynnwr Ryan Haynes yn yr hanner cyntaf oherwydd anaf i’w ben.

Daeth cyfle gorau’r gêm i Salford pan beniodd Tom Clarke y bêl heibio’r gôl.

Mae’r Alltudion, felly, yn ail yn y tabl a Salford yn bumed ar ôl chwarae dwy gêm yn fwy na Chasnewydd.