Sgoriodd Ben Cabango a seren y gêm Jamal Lowe wrth i Abertawe guro Barnsley o 2-0 oddi cartref yn y Bencampwriaeth heno (nos Sadwrn, Ionawr 16).

Mae’r Elyrch bedwar pwynt yn unig y tu ôl i Norwich ar y brig ar ôl brwydro’n galed am y fuddugoliaeth a phedwaredd llechen lân ar ddeg mewn 24 o gemau yn y gynghrair.

Aethon nhw ar y blaen yn ystod yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau yn yr hanner cyntaf, wrth i Ben Cabango godi i benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar gic gornel.

Dyblodd yr Elyrch eu mantais drwy Jamal Lowe yn gynnar yn yr ail hanner.

Gallai Barnsley fod wedi codi i’r seithfed safle gyda buddugoliaeth, ond mae’r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch wedi ymestyn eu mantais dros Bournemouth, yn y trydydd safle, i bedwar pwynt.

Dim ond 13 o goliau mae’r Elyrch wedi’u hildio yn y gynghrair y tymor hwn – y record amddiffynnol orau yn y Gynghrair Bêl-droed.