Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd Ben Cabango a Jamal Lowe ar ôl i’w dîm guro Barnsley oddi cartref o 2-0 – dridiau yn unig cyn iddyn nhw orfod dychwelyd i ogledd Lloegr i herio Blackburn.

Daeth gôl y Cymro Cymraeg Cabango yn ystod yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ac fe ddaeth oddi ar dafliad hir ei gyd-Gymro Connor Roberts i mewn i’r cwrt cosbi.

Yn ôl Cooper, “mae Benny yn fygythiad go iawn oddi ar chwarae gosod”.

“Roedd amseru’r goliau’n dda, yn enwedig yr un gynta’ jyst cyn hanner amser,” meddai.

“Does ’na fyth amser gwael i sgorio.

“Mae Benny yn fygythiad go iawn oddi ar chwarae gosod, does dim amheuaeth am hynny ac mae e wir eisiau ymosod ar y bêl.

“Mae e wedi [sgorio] tair gwaith, ac fe allai fod wedi gwneud unwaith neu ddwy yn rhagor hefyd, a bydd e’n ceisio gwneud hynny eto.”

Tafliad hir Connor Roberts

Daeth gôl Ben Cabango oddi ar dafliad hir Connor Roberts, ond mae’r rheolwr yn mynnu nad yw’r symudiad hwnnw wedi cael ei baratoi ar y cae ymarfer.

“Mae Tatey [yr hyfforddwr Alan Tate] newydd ddweud bod yn rhaid mai dyna’r tafliad hir cyntaf a gôl oddi ar y pen yn hanes Abertawe!” meddai.

“Ro’n i’n meddwl bod hynny’n fygythiad gwirioneddol heno oherwydd y ffordd roedd y gêm yn mynd ac os mai dyna gymerodd hi, dyna ni.

“Rydyn ni’n gweithio ar chwarae gosod ond nid yn benodol ar dafliadau hir ond os yw Connor eisiau ei thaflu hi 50 llathen a dod o hyd i ben rhywun yn y bocs, mae croeso iddo fe fwrw iddi!”

Saith gôl mewn saith gêm i Jamal Lowe

“O ran Jamal, daeth y cyfle iddo fe ychydig yn lwcus, ond wnaeth e ddangos cryn safon a phwyll i’w rhoi hi i ffwrdd a rhoi’r gêm yn ein dwylo ni,” meddai wedyn.

“Mae pob un o’n llechi glân wedi dod o ymdrechion y tîm ac weithiau fe fu’n rhaid i ni alw ar Fred.

“Fred fyddai’r person cynta’ i ddweud wrthoch chi ei fod e wedi cael llechen lân heb ei fod e wedi cael rhyw lawer i’w wneud.

“Fe wnaeth e arbediad neu ddau heno, roedd yna wasgu a blocio gydag Andre [Ayew], rhedeg yn ôl a thaclo, ac ymdrech gan y tîm cyfan i gadw’r bêl allan o’n rhwyd ni.”

Taith i Blackburn

Er ei fod e’n canmol ei dîm i’r cymylau, dywedodd Steve Cooper fod trefn y gemau’n annheg arnyn nhw, gan awgrymu bod taith i Blackburn nos Fawrth (Ionawr 19) ar ôl taith hir arall i Barnsley yn cosbi’r Elyrch yn fwy na chlybiau eraill.

“Mae’n rhaid i ni fynd i Blackburn nos Fawrth ac ry’n ni yn Swydd Efrog nawr am 10.20 ar nos Sadwrn,” meddai.

“Mae hynny’n annheg.

“Rydych chi yn ne Cymru’n gwybod pa mor hir yw’r daith honno.

“Mae gyda ni bedwar diwrnod o deithio, a bod yn onest, gan gynnwys ddoe.

“Mae’n mynd i fod yn gyfnod byr iawn cyn nos Fawrth.

“Ydy hi’n annheg? Ydy.

“Fydden nhw’n gwneud hynny i rai o’r timau eraill yn ein cynghrair ni? Dim gobaith!

“Ond weithiau, dyna’r driniaeth rydyn ni’n ei chael ond byddwn ni’n bwrw ati.”

Ben Cabango

Buddugoliaeth i Abertawe yn Barnsley

Ben Cabango a Jamal Lowe yn sgorio wrth i’r Elyrch ennill o 2-0