Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, wedi beirniadu perfformiad y dyfarnwr a’i gynorthwywyr yn ystod eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Salford yn yr Ail Adran ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 17).

Gallai’r Alltudion fod wedi codi i frig yr adran pe baen nhw wedi ennill.

Ond aethon nhw i lawr i ddeg dyn pan gafodd Josh Sheehan ei anfon o’r cae am dacl flêr â’i ddwy droed ar Ash Hunter ar ôl 57 munud.

Serch hynny, doedd ei reolwr ddim yn teimlo ei fod yn haeddu’r gosb.

“Mae’r pedwerydd swyddog wedi’i rhoi hi a dw i ddim yn meddwl ei fod e wedi rhoi unrhyw beth drwy’r dydd,” meddai.

“Os yw hi’n gerdyn coch yna dw i’n teimlo bod pêl-droed mewn trwbwl.

“Dw i ddim yn credu bod unrhyw ddiben apelio y dyddiau yma.

“Ar ôl ei gwylio hi’n ôl, mae sut na wnaethon ni gael cic o’r smotyn y tu hwnt i fy nealltwriaeth i.

“Roedd safon y swyddogion yn is o lawer na’r safon sydd ei hangen ar gyfer pêl-droed broffesiynol, ond rydyn ni wedi cael pwynt yn erbyn un o’r timau gorau yn y gynghrair.

“Roedd gorffen yn y modd wnaethon ni gyda deg dyn yn galonogol ac roedd yr ysfa i gadw llechen lân yn anghredadwy.”