Mae John Hartson, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, yn galw am reolwr newydd yn Celtic, un o’i hen glybiau.
Mae’r Gwyddel Neil Lennon, un o gyd-chwaraewyr Hartson yn y tîm yn Glasgow, dan bwysau yn Parkhead yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Livingston yn eu gêm ddiweddaraf.
Mae gobeithion Celtic o ennill Uwch Gynghrair yr Alban am y degfed tro yn olynol yn pylu ac mae 15 o staff a chwaraewyr y clwb yn hunanynysu yn sgil Covid-19 yn dilyn taith ddadleuol i Dubai.
Mae’r tîm yng ngofal yr hyfforddwr Gavin Strachan yn absenoldeb Neil Lennon, ac maen nhw 20 pwynt y tu ôl i’w gelynion pennaf Rangers gyda dwy gêm wrth gefn.
‘Siomedig iawn’
“Pyndit ydw i ond mae ots gyda fi fel y cefnogwyr,” meddai wrth bodlediad ten10podcast.com.
“Cefnogwr Celtic ydw i ac yn gyn-chwaraewr ac mae’n siomedig iawn gweld sut mae’r tymor hwn wedi pylu.
“Dw i’n credu bod angen newid.
“Dw i’n anfon fy nymuniadau gorau a phob lwc at Neil pan fo angen hynny arno fe ond mae colli’r gynghrair mewn tymor mor fawr fel maen nhw wedi’i wneud yn siomedig iawn.”
Mae’n galw am newidiadau “o’r gwaelod i’r top” gan ddweud bod angen i hynny ddigwydd “yn fuan”.
“Efallai bod angen llais gwahanol ar y chwaraewyr,” meddai.
“Mae’n bosib fod Neil eisiau her newydd, dechrau o’r dechrau.
“Weithiau dyw e ddim yn gweithio, mae Neil yn ddigon galluog ac mae’n rhaid iddo fe weld hyn.
“Mae wedi cymryd cyhyd i fi ddweud y byddwn i’n hoffi gweld newid, staff newydd, ffresni, rhywbeth gwahanol.
“Mae Neil wedi gwneud yn wych, mae nifer ei dlysau wedi bod yn wych fel chwaraewr a rheolwr.
“Dw i jyst yn teimlo bod angen i’r clwb ddweud eu bod nhw am newid y rheolwr, p’un a fydd e’n mynd ar ddiwedd y tymor neu nawr.
“Mae’n beth anodd i fi ei ddweud, ond dw i’n credu bod angen ei wneud e.
“Daeth yr amser.”