Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n agos at ddenu Jordan Morris ar fenthyg o Seattle.

Daw’r newyddion am yr asgellwr 26 oed, sydd wedi treulio ei yrfa gyfan yn yr Unol Daleithiau gan ennill 39 o gapiau dros ei wlad, yn dilyn y siom i’r Elyrch fod Max Watters, un arall roedden nhw wedi bod yn ei lygadu, wedi ymuno â Chaerdydd.

Mae’r Elyrch eisoes wedi denu’r golwr Ben Hamer o Huddersfield ers i’r ffenest drosglwyddo ailagor ddechrau’r mis, ac mae adroddiadau’n eu cysylltu â Conor Hourihane, y Gwyddel sy’n chwarae yng nghanol y cae i Aston Villa.

Ond maen nhw wedi colli Morgan Gibbs-White, sydd wedi dychwelyd i Wolves, Kasey Palmer sydd wedi dychwelyd i Bristol City a Viktor Gyokeres oedd wedi dychwelyd i Brighton cyn mynd ar fenthyg i Coventry.

Mae’r ymadawiadau hynny wedi gadael bwlch ymosodol a diffyg profiadol sylweddol ym mlaen y cae ac eithrio Andre Ayew.