Wrth i’r dadlau barhau ynglŷn a ddylai gemau gael eu chwarae o gwbl gyda sefyllfa Covid-19 mor ddifrifol, sut y dylai chwaraewyr ddathlu a oedd pwnc trafod mawr yr wythnos yn y byd pêl droed. Ond pa chwaraewyr Cymru a oedd ag achos dathlu dros y penwythnos tybed?

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd buddugoliaeth brin i West Brom ddydd Sadwrn wrth iddynt deithio i Molineux i herio Wolves. Daeth Hal Robson-Kanu i’r cae fel eilydd am yr ugain munud olaf wrth i’w dîm ennill o dair gôl i ddwy.

Cafodd Tyler Roberts ymddangosiad oddi ar y fainc i Leeds yn erbyn Brighton hefyd ond colli a fu ei hanes ef gan wastraffu hanner cyfle i achub pwynt yn hwyr yn y gêm.

Gwylio o’r fainc a wnaeth Danny Ward wrth i Gaerlŷr guro Southampton nos Sadwrn.

Gêm fawr y penwythnos o safbwynt cefnogwyr Cymru a oedd ymweliad Tottenham â Sheffield Utd ddydd Sul. Chwaraeodd y ddau dîm gyda thri yn y cefn gydag Ethan Ampadu yn rhan o amddiffyn y Blades a Joe Rodon a Ben Davies i Spurs. Rodon a Davies a oedd hapusaf ar ddiwedd y gêm wrth i’w tîm ennill o dair gôl i un. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gareth Bale unwaith eto.

Roedd Neco Williams ar y fainc wrth i Lerpwl groesawu Man U i Anfield ddydd Sul ond nid oedd Dan James yng ngharfan United.

*

Y Bencampwriaeth

Arhosodd Abertawe yn ail yn y tabl gyda buddugoliaeth yn Barnsley nos Sadwrn. Dechreuodd Connor Robers a Ben Cabango i’r Elyrch ac yn ogystal â chyfrannu at lechen lân yn y cefn, fe gyfunodd y ddau amddiffynnwr i greu gôl agoriadol eu tîm hefyd wrth i dafliad hir Roberts gael ei benio i’r gôl gan Cabango toc cyn yr egwyl. Dyblodd Jamal Lowe y fantais yn yr ail hanner, dwy i ddim y sgôr terfynol.

Mae Norwich yn aros bedwar pwynt yn glir o Abertawe ar frig y tabl ar ôl ennill o ddwy gôl i un yng Nghaerdydd. Chwaraeodd Will Vaulks a Harry Wilson y gêm gyfan ond y newyddion gorau i gefnogwyr Cymru a’r Adar Gleision a oedd gweld Kieffer Moore yn dychwelyd i’r tîm i chwarae’r hanner awr olaf yn dilyn cyfnod allan gydag anaf.

Mae bwlch o bedwar pwynt yn gwahanu Abertawe a Bournemouth yn y trydydd safle hefyd wedi iddynt hwy golli o gôl i ddim gartref yn erbyn Luton. Newyddion da i’r tîm o Gymru ond ddim i David Brooks, a chwaraeodd 82 munud o’r gêm i’r Cherries. Daeth trobwynt y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan dderbyniodd Jefferson Lerma gerdyn coch am daro Tom Lockyer â’i ben elin. Bu’n rhaid i amddiffynnwr Luton a Chymru adael y cae ddeg munud yn ddiweddarach o ganlyniad i’r anaf a ddioddefodd.

Un chwaraewr oedd ddim yn nhîm Luton a oedd Rhys Norrington-Davies. Cafodd ef ei alw nôl o’i gyfnod ar fenthyg yn Kenilworth Road gan Sheffield Utd yr wythnos hon cyn cael ei yrru ar fenthyg i Stoke am weddill y tymor. Anaf i Gymro arall, Morgan Fox, yw’r prif reswm am y trosglwyddiad hwn mae’n siŵr ac mae saith Cymro bellach yng ngharfan Michael O’Neill.

Dechreuodd pedwar ohonynt yn Blackburn ddydd Sadwrn, Norrington Davies, James Chester, Rabbi Matondo a Joe Allen. Gorffen yn gyfartal, gôl yr un a wnaeth hi, diolch yn rhannol i drosedd broffesiynol Chester ddeuddeg munud o’r diwedd, trosedd a achubodd bwynt i’w dîm ond a gostiodd gerdyn coch iddo ef!

Penwythnos siomedig a oedd hi i weddill Cymry’r Bencampwriaeth. Colli fu hanes Tom Bradshaw gyda Millwall yn Nottingham Forest ac felly hefyd Andrew Hughes a Ched Evans gyda Preston yn Bristol City. Sôn am Preston, mae’n debyg fod Billy Bodin yn agosáu at ffitrwydd yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf.

*

Cynghreiriau is

Dechreuodd Chris Gunter, Adam Matthews a Jonny Williams i Charlton wrth iddynt guro Bristol Rovers o gôl i ddim yn yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn, Matthews ar ochr dde’r amddiffyn a Gunts yn y canol. Chwaraeodd Cian Harries hanner awr olaf y gêm i Bristol Rovers.

Dychwelodd Gwion Edwards i dîm Ipswich yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf. Chwaraeodd y gŵr o Lambed 79 munud wrth i Fois y Tractor ennill o gôl i ddim yn Burton.

Matthew Smith a oedd yr unig Gymro buddugoliaethus arall yn yr Adran Gyntaf, yn dod i’r cae fel eilydd wrth i Doncaster drechu Swindon o ddwy gôl i un i aros yn y safleoedd ail gyfle.

Mae tymor penigamp Luke Jephcott yn parhau wedi i’r blaenwr sgorio eto yng ngêm gyfartal gôl yr un Plymouth yn erbyn Crewe. Sgoriodd chwaraewr y mis, mis Rhagfyr, gic o’r smotyn gynnar yn y gêm, ei bymthegfed gôl gynghrair o’r tymor.

Un gôl yr un a oedd y sgôr wrth i Blackpool groesawu Hull i Bloomfield Road hefyd. Chwaraeodd Chris Maxwell yn y gôl i’r Tangerines a chreodd Ben Woodburn argraff oddi ar y fainc, yn ennill cic rydd a arweiniodd at gerdyn coch i Reece Burke, eiliad bwysig yn y gêm.

Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi rhwng Rochdale a Wigan wrth i’r timau rannu chwe gôl yn Spotland. Owen Evans a ildiodd dair o’r rheiny, yn gwneud ymddangosiad prin rhwng y pyst i’r Latics ac o’i flaen yng nghanol yr amddiffyn yr oedd Tom James.

Colli o dair i ddim a fu hanes Regan Poole a’r MK Dons yn Peterborough.

Di sgôr a oedd hi yn y frwydr rhwng Casnewydd a Salford tua brig yr Ail Adran ddydd Sadwrn. Dechreuodd Tom King, Liam Shephard a Josh Sheehan i’r Alltudion a daeth Ash Baker i’r cae fel eilydd cynnar. Wnaeth Sheehan ddim gorffen y gêm serch hynny ar ôl cael ei anfon o’r cae am dacl wyllt ar Ash Hunter toc cyn yr awr.

*

Yr Alban a thu hwnt

Cododd Hibs i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair yr Alban gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Kilmarnock. Ni wnaeth Christian Doidge ddechrau’r gêm ond fe greodd argraff oddi ar y fainc yn creu ail gôl ei dîm i Alex Gogic.

Mae Aberdeen yn llithro i’r pedwerydd safle ar ôl colli’n drwm yn Ross County. Mae Marley Watkins yn parhau i fod wedi’i anafu ac roedd Ryan Hedges wedi’i wahardd yn dilyn cerdyn coch yn y gêm ddiwethaf. Ash Taylor a oedd yr unig Gymro i ddechrau’r gêm felly ond hanner awr yn unig a barodd yntau cyn gorfod gadael y cae gydag anaf.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, fe gadwodd Owain Fôn Williams lechen lân yng ngêm gyfartal ddi sgôr Dunfermline yn erbyn Greenock Morton.

Roedd buddugoliaeth brin i St. Pauli yn y 2. Bundesliga ddydd Sadwrn wrth iddynt drechu Hannover96 o dair gôl i ddwy ond mae James Lawrence yn parhau i fod allan o’r garfan.

Dechreuodd Aaron Ramsey i Juventus yn y gêm fawr yn erbyn Inter yn Serie A nos Sul ond cafodd ei eilyddio toc cyn yr awr gyda’i dîm ddwy gôl i ddim ar ei hôl hi.

Roedd Andy King ar y fainc i’w glwb newydd, Leuven, wrth iddynt hwy golli o dair gôl i un yn erbyn STVV yn y Pro League yng Ngwlad Belg.

 

Gwilym Dwyfor