Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod Jayne Ludlow wedi gadael ei swydd fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Merched Cymru.

Mae Jayne Ludlow wedi bod wrth y llyw ers mis Hydref 2014 a hi oedd y rheolwr cyntaf i arwain y tîm am fwy na 50 o gemau.

Yn ystod y cyfnod hwnnw cododd Cymru i’r 30 uchaf yn safleoedd Menywod FIFA a daeth y tîm o fewn trwch blewyn o gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2019.

“Mae Jayne wedi chwarae rhan enfawr yng nghynnydd gêm y Merched yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf, gan reoli’r tîm drwy dair ymgyrch gymhwyso,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford.

“Fe gododd ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd Menywod FIFA 2019 broffil y gêm ledled y wlad, gan ysbrydoli merched ifanc ledled Cymru i chwarae pêl-droed am y tro cyntaf.

“Mae Jayne wedi bod yn ysbrydoliaeth oddi ar y cae hefyd, gan ymweld ag ysgolion ar draws Cymru yn rheolaidd yn ogystal â mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”

“Rydym yn diolch i Jayne am ei holl waith caled, ei hymroddiad a’i chyfraniad enfawr i bêl-droed Cymru ar y cae ac oddi arno. Dymunwn yn dda iddi yn y dyfodol.”

“Pleser ac anrhydedd”

Ar ôl chwe blynedd wrth y llyw, dywedodd Jayne Ludlow: “Mae fy amser fel Rheolwr y Tîm Cenedlaethol wedi bod yn daith gyffrous a chyffrous.

“Mae wedi bod yn bleser ac anrhydedd gweithio gyda’r staff a’r chwaraewyr ar draws ein grŵpiau oedran a’n uwch dimau.

“Cawsom sawl uchafbwynt, gan gynnwys ein gêm gyntaf erioed yn erbyn Lloegr yn Southampton a’r fuddugoliaeth wych dros Rwsia yng Nghasnewydd ym mis Mehefin 2018.

“Mae wedi bod yn amgylchedd dysgu gwych i mi’n bersonol ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni dros y chwe blynedd diwethaf fel grŵp o staff a chwaraewyr, ac rwyf am ddiolch iddynt.

“Rwy’n dymuno’n dda i’r garfan yn y dyfodol ac rwy’n teimlo nad yw cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol twrnament ymhell i ffwrdd.”

Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nawr yn dechrau ar broses recriwtio er mwyn penodi olynydd Jayne Ludlow.

Yn y cyfamser, mae tîm merched Lloegr hefyd wedi colli eu prif hyfforddwr. Mae Phil Neville wedi gadael y swydd honno ar ol tair blynedd i fod yn rheolwr Inter Miami, sef clwb ei gyfaill David Beckham yn yr Unol Daleithiau.