Mae cyn-reolwr Cymru Mark Hughes yn dweud ei fod wedi’i ailfywiogi ac yn barod i ddychwelyd i bêl-droed fel rheolwr.
Mae’r gŵr 57 oed wedi bod ar “seibiant estynedig” ers colli ei swydd gyda Southampton ym mis Rhagfyr 2018.
Dywedodd ei fod wedi cael cyfleoedd am waith yn ystod ei gyfnod allan o’r gêm ond nad oedd yr un ohonynt yn teimlo’n iawn.
“Dwi wedi cael digon o orffwys nawr – dwi’n barod i fynd,” meddai wrth BBC Radio 5 Live.
“Hoffwn feddwl y bydd y cyfleoedd hynny’n parhau i ddod, o ystyried y CV sydd gen i.
“Mae’n rhaid i chi aros am yr un cywir.”
Cafodd Mark Hughes ei flas cyntaf ar reoli gyda Chymru yn 1999 ac yn ystod ei bum mlynedd wrth y llyw daeth Cymru o fewn trwch blewyn o gymhwyso ar gyfer Ewro 2004.
Ar ôl hynny bu’n rheolwr ar Blackburn Rovers, Manchester City, Fulham, Queens Park Rangers a Stoke City yn ogystal â Southampton.
“Cadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd”
Er nad yw wedi bod mewn swydd ers 2018, dywedodd Mark Hughes ei fod wedi bod yn “cadw llygad ar hyn sy’n digwydd”.
“Yn amlwg, dydych chi ddim yn mynd ati i geisio cymryd swyddi pobol eraill, dydy hynny ddim yn digwydd, ond yn amlwg rydych chi’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd a sut mae timau’n gwneud,” meddai.
“Mae yna bobol a fydd yn cysylltu â chi ac yn dweud ‘os bydd hyn yn digwydd fyddech chi eisiau symud i’r clwb hwn?’ ac yn y blaen.
“Rydych chi’n cael y sgyrsiau hynny cyn unrhyw symudiad gwirioneddol yn y farchnad.”
“Rydw i’n teimlo y bydd yno gyfleoedd ar gael imi”
Am y tro mae’r cyn chwaraewr Manchester United, Barcelona a Chelsea yn dweud ei fod yn hapus i fod yn amyneddgar.
“Maes o law rydw i’n teimlo y bydd yno gyfleoedd ar gael imi,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r amseru fod yn iawn, ac mae’n rhaid iddo fod yn iawn i’r clwb sydd eisiau gwneud y newid.”