Mae cyfnod Ben Woodburn ar fenthyg gyda Blackpool wedi dod i ben, gyda’r Cymro’n dychwelyd i Lerpwl.

Dim ond tair gwaith y dechreuodd gêm i Blackpool, sy’n chwarae yn League One, a ni lwyddodd i sgorio mewn cyfanswm o 11 ymddangosiad i’r clwb.

Ar ben hynny, cafodd ei heintio â’r coronafeirws tra yr oedd ar fenthyg yno.

“Gall Clwb Pêl-droed Blackpool gadarnhau bod Ben Woodburn bellach wedi dychwelyd i Lerpwl yn dilyn diwedd ei gytundeb benthyg,” meddai datganiad ar wefan y clwb.

“Hoffai’r clwb ddiolch i Ben am ei holl ymdrechion a dymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.”

Gwnaeth Woodburn ei ymddangosiad cyntaf yn Lerpwl ym mis Tachwedd 2016 ac, yn ei ail ymddangosiad, daeth y chwaraewr ieuengaf i sgorio gôl i’r clwb yn 17 oed a 45 diwrnod oed.

Sgoriodd yn erbyn Leeds yng Nghwpan yr EFL yn Anfield i guro record Michael Owen o 98 diwrnod.

Sgoriodd Woodburn, sydd hefyd wedi treulio cyfnodau ar fenthyg gyda Oxford United a Sheffield United, ar ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn Awstria ym mis Medi 2017 ac mae wedi ennill 10 cap, gan sgorio ddwywaith.