Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod Lauren Smith, is-reolwr tîm merched Cymru, wedi gadael ei swydd.

Daw’r cyhoeddiad drannoeth y cyhoeddiad bod Jayne Ludlow wedi gadael ei swydd hefyd.

Bydd Lauren Smith yn ymuno â Spurs fel is-hyfforddwr.

Ymunodd hi â thîm merched Cymru yn 2017, gan gymryd cyfrifoldeb am y timau dan 17 a dan 19.

Dan arweiniad Jayne Ludlow a Lauren Smith, mae’r tîm cenedlaethol wedi cyrraedd 30 uchaf rhestr ddetholion FIFA am y tro cyntaf, tra bod y timau dan 17 a dan 19 wedi cyrraedd rowndiau elit Pencampwriaeth Ewrop.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi diolch i Lauren Smith am ei “hymroddiad i bêl-droed Cymru”, gan ddymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.