Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd Jay Fulton ar ôl iddo lofnodi cytundeb newydd fydd yn ei gadw gydag Abertawe tan ddiwedd y tymor 2023-24.

Daw hyn wrth i gêm yr Elyrch yn erbyn Blackburn ym Mharc Ewood heno (nos Fawrth, Ionawr 19) gael ei gohirio am fod y cae yn rhy wlyb.

Roedd cytundeb blaenorol y gŵr 26 oed, wnaeth ymuno â’r Elyrch o Falkirk yn 2014, yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn.

Mae’r Albanwr wedi dod yn rhan annatod o garfan Abertawe wrth iddyn nhw godi i’r ail safle yn y Bencampwriaeth.

“Allai ddim pwysleisio gormod pa mor broffesiynol ydi o. Allwch chi ddim gofyn am chwaraewr gwell i’r tîm neu aelod carfan well,” meddai Steve Cooper wrth wefan Abertawe.

“Mae bob amser yn rhoi popeth arall o’i flaen ei hun, mae’n unigolyn anhunanol.

“Mae Abertawe’n bwysig iawn iddo. Mae ei wraig newydd roi genedigaeth i’w hail blentyn ac maen nhw’n tyfu i fyny yma, ac mae hynny’n bwysig pan rydych chi’n ddyn teulu.

“Dw i wedi cael sgyrsiau da iawn gyda Jay y tymor hwn ac yn ddiweddar. Rydyn ni i gyd yn gytûn.

“Rwy’n gobeithio ei fod yn cael llawer o gydnabyddiaeth am y ffordd mae’n chwarae, oherwydd mae’n ei haeddu.”

Conor Hourihane

Yn y cyfamser, mae Abertawe wedi denu Conor Hourihane ar fenthyg o Abertawe tan ddiwedd y tymor.

Daw ar ôl i Dean Smith, rheolwr Aston Villa, gadarnhau y byddai’r Gwyddel yn mynd allan ar fenthyg y mis yma, ac roedd Abertawe ymhlith y ffefrynnau i’w ddenu.

Gohirio’r gêm “yn anffodus ond yn ddealladwy”

Yn ôl Steve Cooper, mae gohirio’r gêm yn Blackburn heno’n “anffodus ond yn ddealladwy”.

“Yn anffodus, mae’r tywydd wedi ein trechu ni,” meddai.

“Mae’n un o’r pethau hynny nad oes modd eu hosgoi ac mae’n anffodus a, fel popeth arall, byddwn ni’n addasu i’r peth.

“Yn amlwg, bydd rhaid i ni chwarae’r gêm pryd bynnag y bydd hynny’n ffitio i mewn, a byddwn ni’n ymdopi wrth iddi ddod.

“Un o’r pethau da yn y Bencampwriaeth yw cael rhediad o gemau lle gallwch chi adeiladu momentwm ond does dim bai ar unrhyw un ac mae’n un o’r pethau hynny.

“Mae’r rhagolygon yn wael am weddill y dydd felly mae’n benderfyniad dealladwy.”

Darllenwch ragor

Steve Cooper

Canu clodydd Ben Cabango a Jamal Lowe – ond cwyno am driniaeth annheg

Steve Cooper yn beirniadu’r daith i Blackburn nos Fawrth, dridiau ar ôl teithio i Barnsley