Mae Caerdydd wedi arwyddo’r cefnwr de Perry Ng o Crewe Alexandra.
Mae’r gŵr 24 oed yn ymuno â’r Adar Gleision am ffi sydd heb ei ddatgelu, a hynny ar gytundeb sy’n rhedeg tan haf 2024.
Ond mae’n debyg y bydd Caerdydd yn talu £350,000 i ddechrau, a allai godi i £500,000.
Roedd Perry Ng yn nhymor olaf ei gytundeb gyda Crewe, tra bod Caerdydd yn awyddus i gryfhau eu hopsiynau amddiffynnol ar yr ochr dde.
Mae Jordi Osei-Tutu, sydd ar fenthyg o Arsenal, allan am bedair i chwe wythnos arall gydag anaf a ddioddefodd ym mis Hydref.
Ac mae Neil Harris, rheolwr yr Adar Gleision, wedi cael ei orfodi i ddewis y chwaraewr canol cae Leandro Bacuna fel cefnwr yn ystod y misoedd diwethaf.
Daw hyn ar ôl i bedwar cefnwr adael y clwb yn ystod 2020.
Ymunodd Lee Peltier â West Bromwich Albion fis Ionawr diwethaf, gadawodd Jazz Richards ym mis Mehefin ar ôl i’w gytundeb ddod i ben, tra bod chwaraewr ieuenctid Cymru Cameron Coxe hefyd wedi gadael ac roedd Dion Sanderson wedi dychwelyd i Wolverhampton Wanderers ar ddiwedd ei gyfnod ar fenthyg.
Ar ôl dod drwy academi Crewe Alexandra, cafodd Perry Ng ei benodi’n gapten yn 2019, ar ôl cael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan gefnogwyr a chwaraewyr y clwb yn 2018/19.
Aeth yn ei flaen i arwain y clwb i ddyrchafiad awtomatig o’r Adran Gyntaf yn 2019/20, gan ennill lle yn nhîm y flwyddyn yr Ail Adran yn y broses.
Mae Perry Ng yn dod i Gaerdydd ôl chwarae i Crewe Alexandra dros 150 o weithiau.