Ellis Jenkins bellach yn “rhydd o’r anaf”

Dydy’r blaenasgellwr, sydd wedi ennill 11 o gapiau dros Gymru, ddim wedi chwarae ers anafu ei ben-glin yn erbyn De Affrica yn 2018

Ellis Jenkins

Mae Eliis Jenkins, blaenasgellwr y Gleision, yn agos iawn i fod yn holliach ac yn barod i chwarae, yn ôl Dai Young, Cyfarwyddwr Rygbi dros dro’r rhanbarth.

Dydy Ellis Jenkins, sydd â 11 cap i Gymru, heb chwarae ers anafu ei ben-glin yn erbyn De Affrica yn 2018.

Roedd yr anaf yn gysgod tros achlysur hanesyddol ddwy flynedd yn ôl, wrth i Gymru ennill pob gêm yn yr hydref am y tro cyntaf erioed.

Er iddo gael ei gario oddi ar y cae yn y munudau olaf, cafodd Ellis Jenkins ei enwi’n seren y gêm – fodd bynnag mae ei yrfa wedi bod ar stop ers hynny gan hefyd fethu’r cyfle i gynrychioli ei wlad yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

‘Magu hyder’

“Mae Ellis yn iawn, mae ar y pwynt o ddod yn ôl,” meddai Dai Young.

“Mae’n rhydd o’r anaf, rwy’n awyddus nawr iddo gael ychydig mwy o amser yn hyfforddi er mwyn ei helpu i fagu ychydig o hyder. Fodd bynnag mae’n edrych yn dda ar hyn o bryd.

“Mae nôl ar y parc yn hyfforddi. Mae angen iddo godi rhywfaint o’i ffitrwydd, ac mae angen ychydig wythnosau arno cyn mynd amdani go iawn i hyfforddi.

“Y peth da yw nad yw’n cario’r anaf mwyach.”

Bydd y Gleision yn wynebu’r Scarlets am yr eildro mewn pythefnos ar nos Wener (Ionawr 22).

Hon fydd ail gêm Dai Young yn ôl wrth y llyw ar ôl curo’r Scarlets yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddechrau’r mis.

Yn y cyfamser, bydd Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, yn enwi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Mercher (Ionawr 20), cyn i’r garfan ddod ynghyd i hyfforddi yr wythnos nesaf.

← Stori flaenorol

Crys tîm criced Tân Cymreig

Tân Cymreig yn cadw Jonny Bairstow, Tom Banton a Ben Duckett

Alex Griffiths, Georgia Hennessy, Lauren Filer, Sophie Luff a Natasha Wraith am aros gyda thîm y merched

Stori nesaf →

Logo Heddlu'r De yn siap helmed

Llofruddiaethau Clydach: Heddlu’r De yn cyhoeddi arolwg fforensig annibynnol

Fe ddaw ar ôl i gyfreithwyr David Morris, a gafodd ei garcharu am lofruddio pedwar aelod o’r teulu, wneud cais

Hefyd →

Ken Owens yn ymddeol o chwarae rygbi

Yn ystod ei yrfa, enillodd Ken Owens 91 cap dros Gymru, a chwarae i’r Scarlets 270 o weithiau dros ugain mlynedd