Mae Heddlu’r De yn dweud y bydd arolwg fforensig o’r newydd i lofruddiaethau pedwar aelod o’r un teulu yng Nghlydach yn 1999.
Cafodd Doris Dawson, ei merch Mandy Power a’i hwyresau Katie ac Emily eu llofruddio yn eu cartref.
Hwn oedd yr ymchwiliad mwyaf erioed i lofruddiaeth gan yr heddlu yng Nghymru, ac fe wnaethon nhw ystyried dros 4,500 o ddatganiadau, 1,500 o negeseuon gan y cyhoedd, bron i 2,000 o ymweliadau â chartrefi tystion a thros 3,700 o ddarnau o eitemau.
Cafodd David Morris ei garcharu yn dilyn rheithfarn unfrydol yn 2002, ond cafodd ei gollfarn ei gwyrdroi yn dilyn apêl ac fe aeth gerbron llys unwaith eto yn 2006 a’i gael yn euog am yr ail waith a’i ddedfrydu i oes o garchar.
Arolwg blaenorol
Fe wnaeth y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol ystyried yr achos yn 2018 ond fe wnaethon nhw benderfynu peidio â throsglwyddo’r achos i’r Llys Apêl.
Fis Tachwedd y llynedd, yn dilyn darlledu The Clydach Murders: Beyond Reasonable Doubt gan BBC Cymru, cysylltodd cyfreithwyr David Morris â Heddlu’r De yn gofyn iddyn nhw ryddhau darnau o dystiolaeth i wyddonwyr fforensig er mwyn cynnal adolygiad o’r newydd.
Mae Heddlu’r De bellach yn dweud y bydd uwch swyddog annibynnol a gwyddonydd fforensig annibynnol yn cael eu penodi i oruchwylio adolygiad fforensig.
Serch hynny, mae’r heddlu’n pwysleisio nad yw’n gyfystyr ag ailagor yr ymchwiliad i’r llofruddiaethau nac yn awgrym o ddiffyg hyder ym mhenderfyniad y rheithgor a’r adolygiadau.
Er nad oes tystiolaeth newydd, mae’r heddlu’n dweud bod posibilrwydd y gallai rhai o’r cwestiynau oedd heb eu hateb yn dilyn yr ymchwiliad cyntaf gael eu hateb y tro hwn.
Maen nhw’n dweud bod penodi uwch swyddog annibynnol a gwyddonydd fforensig annibynnol o’r tu allan i Heddlu’r De yn sicrhau annibyniaeth yr ymchwiliad, ac y byddan nhw’n cyflwyno’u casgliadau i Heddlu’r De maes o law.
‘Symud ymlaen’?
“Rhaid i ni gofio effaith y blynyddoedd o ymgyrchu a’r cwestiynau sydd wedi’u codi am gollfarn David Morris ar deulu Doris Dawson, Mandy Power a’i dwy ferch fach,” meddai’r heddlu mewn datganiad.
“Mae pob erthygl papur newydd a phob neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dod â’r atgofion mwyaf poenus yn ôl felly y rheswm am y penderfyniad hwn yn sicr yw’r gobaith y bydd yr adolygiad hwn yn eu helpu nhw i symud ymlaen ar ôl mwy nag ugain mlynedd ers colli eu hanwyliaid ac i ateb y cwestiynau sydd wedi’u gofyn gan eraill unwaith ac am byth.
“Maen nhw wedi cael gwybod am y penderfyniad hwn ac yn llwyr gefnogi’r gwaith a fydd yn cael ei gwblhau.
“Mae ein meddyliau’n dal gyda’r teuluoedd a’r rhai a gafodd eu heffeithio gan yr achos hwn ac yn cydnabod yr effaith arwyddocaol mae’n parhau i’w chael arnyn nhw.”