Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal chwe chyfarfod Cabinet ym mis Tachwedd “ac nid oedd un drafodaeth ar frechlynnau a brechu”.

Yn ystod Cyfarfod Llawn o’r Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 19), fe gododd Paul Davies amheuon am barodrwydd Llywodraeth Cymru i ddefnyddio brechlynnau Covid.

Cyfeiriodd at gofnodion chwe chyfarfod Cabinet Llywodraeth Cymru sy’n trafod pynciau amrywiol – gan gynnwys strategaeth drafnidiaeth, y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladu, ac ehangu rôl diffoddwyr tân – ond nid strategaeth frechu Covid y llywodraeth.

Er nad oes cyfeiriad at y strategaeth frechu yn y cofnodion, mae’r prif weinidog Mark Drakeford yn mynnu bod y mater wedi cael ei drafod.

“Ein blaenoriaeth ni fel Llywodraeth, a blaenoriaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yw brechu cymaint o bobol yng Nghymru mor gyflym a saff a phosib,” meddai.

“Er nad yw’r aelod [Paul Davies] yn darllen pob cofnod sydd yn y cofnodion, nid yw’n golygu nad yw’r cabinet wedi trafod brechu a phob agwedd arall o’r argyfwng.

“Rydym wedi trafod hyn y tu mewn i Lywodraeth Cymru, gydag uwch swyddogion a gweinidogion drwy fis Tachwedd fel y buom yn ei wneud ers cyfarfod cyntaf ein grŵp i gynllunio brechu ym mis Mehefin.”

Hyd yma, mae 162,000 o bobl wedi cael eu brechu yng Nghymru.

‘Dryswch’

Yn ddiweddarach, disgrifiodd Paul Davies hyn fel achos arall o “ddryswch”.

“Mae hwn yn achos arall mewn dim ond dau ddiwrnod lle mai ‘dryswch’ yw’r unig air priodol i ddisgrifio camau gweithredu, neu ddiffyg gweithredu, Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Ddoe, y [gymdeithas feddygol] BMA ddywedodd fod sylwadau’r Prif Weinidog ar ddal stoc o’r brechlyn yn ôl yn ddryslyd.

“Heddiw, dyma hefyd yw ymateb y Ceidwadwyr Cymreig i ddiffyg parodrwydd ac esgeulustod [Llywodraeth Cymru] bron ddeufis ar ôl cyflwyno brechlyn Covid.

“Cafodd y brechlyn Pfizer ei gymeradwyo i’w ddefnyddio ddechrau mis Tachwedd 2020 ac eto, nid yw’r rhaglen frechu wedi’i gyfeirio ato yn unman, ddim hyd yn oed ym mhapurau’r Cabinet.

“Yn amlwg, rydym ni yng Nghymru bellach yn talu’r pris am betruso ac oedi Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd.

“Mae bywydau, a bywoliaethau, yn y fantol yn awr gymaint ag erioed, ac mae’n rhaid i’r Prif Weinidog sicrhau bod y rhaglen frechu yn gwneud yn iawn am golli amser.”

Cymru yn brechu “cyn gynted ag y gallwn”, medd Vaughan Gething

“Cymru fydd y wlad sy’n perfformio bumed orau yn y byd, ond rydyn ni hefyd yn gwybod ein bod ni’n mynd i gael ein cymharu gyda gwledydd eraill y DU”