Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi cyhuddo llywodraeth y Deyrnas Unedig o beryglu dyfodol cerddorion Cymru, trwy wrthod dod i gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau teithio heb fisa i’r cyfandir.
Dywedodd fod methiant y Llywodraeth i ddod i gytundeb ynghylch trwydded waith am ddim ledled yr Undeb Ewropeaidd, yn atal perfformwyr, bandiau, artistiaid a gweithwyr teithiol proffesiynol o Gymru rhag datblygu cyfleoedd gyrfa.
Mae deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ganiatáu teithio heb fisa i weithwyr teithiol proffesiynol i’r Undeb Ewropeaidd wedi derbyn 263,333 o lofnodion, gyda 404 ohonyn nhw yng Ngwynedd.
“Llanast”
Cododd Hywel Williams y mater fel Cwestiwn Brys yn San Steffan.
“Yn ôl Dr Paul Carr o Brifysgol De Cymru, yn 2019 cynhyrchodd twristiaeth gerddoriaeth wariant o £124m, gan gefnogi 1,754 o swyddi,” meddai.
“Mae Covid-19 eisoes wedi achosi difrod ariannol sylweddol i’r sector.
“Mae methiant y Llywodraeth i sicrhau teithio heb fisa yn ergyd bellach i berfformwyr, yn enwedig pobl ifanc ar gychwyn eu gyrfaoedd creadigol a bydd yn lleihau ansawdd rhyngwladol ein diwylliant cenedlaethol yn arbennig.
“Pa asesiad mae’r llywodraeth wedi’i wneud o effaith hirdymor y llanast yma yn benodol ar sector diwylliannol Cymru?”
“Rydym yn gwybod y bydd yno rwystrau i’r rheini sydd eisiau teithio dramor ond byddwn ni’n galluogi pobol i gael mynediad at y wybodaeth sydd ei angen arnynt a gweld beth yw’r sefyllfa gyda holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Caroline Dinenage, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
“Rwy’n gwybod bod hwn yn sector, yn enwedig yng Nghymru, lle mae cerddorion yn ymroddedig, bywiog, dyfeisgar ac ymarferol ac rwy’n sicr y byddan nhw’n gallu goresgyn unrhyw rwystrau er mwyn gallu gwneud yr hun maen nhw’n ei wneud mor dda, a pharhau i rannu eu cerddoriaeth gydag ein cymdogion Ewropeaidd.”
“Ergyd enbyd i ddiwydiant cerddoriaeth Cymru”
“Mae’r cyfyngiadau newydd hyn yn ergyd enbyd i ddiwydiant cerddoriaeth Cymru, sydd eisoes wedi dioddef yn amghymesurol o ganlyniad i’r pandemig a bydd yn hyn yn anghymelliant pellach i berfformwyr ifanc uchelgeisiol trwy wneud teithio yn amhosibl yn ariannol i rai,” meddai Hywel Williams.
“Gallai gosod rhwystrau costus i berfformwyr teithiol gael effaith ddifrifol ar gerddorion sefydledig a cherddorion ar gychwyn eu gyrfa – yn ogystal â diwydiant cerddoriaeth ehangach y Deyrnas Unedig.”