Mae HSBC wedi cyhoeddi y bydd yn cau 82 o ganghennau ledled y Gwledydd Prydain – mae chwech o’r rhain yng Nghymru.

Daw’r penderfyniad wrth i bandemig Covid-19 weld mwy yn bancio ar-lein.

“Nid yw’r pandemig wedi ein gwthio i gyfeiriad gwahanol ond mae’n atgyfnerthu’r pethau yr oeddem yn canolbwyntio arnynt o’r blaen,” meddai llefarydd ar ran HSBC.

“Mae hwn yn benderfyniad strategol y mae angen i ni ei gymryd i gael rhwydwaith o ganghennau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae sicrhau bod gennym rwydwaith cangen gynaliadwy yn hanfodol i ni, ac nid yw penderfyniadau i gau canghennau yn un hawdd.

“Drwy sicrhau bod gennym y fformat mwyaf addas ym mhob marchnad leol benodol yr ydym yn ei gwasanaethu, byddwn yn sicrhau ein bod mewn cyflwr da i ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau.”

Canghennau sydd i gau yng Nghymru

  • Pontyclun – Mai 14
  • Rhymni, Caerdydd – Mai 28
  • Gorseinon, Abertawe – Mehefin 18
  • Pontypridd – Gorffennaf 16
  • Prestatyn – Gorffennaf 23
  • Y Barri – Medi 3
  • Y Trallwng – Medi 24