Mae Comisiwn y Senedd yn cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiadau bod Aelodau o’r Senedd wedi cynnal “digwyddiad ar ystâd y Senedd y mis diwethaf a allai fod wedi bod yn groes i reoliadau iechyd cyhoeddus”.
Mae adroddiadau bod Paul Davies AoS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ynghyd â Darren Millar AoS, a Nick Ramsay AoS, yn yfed gyda’i gilydd yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd gwleidyddion Bae Caerdydd wedi’u lleoli, ar Ragfyr 8.
Roedd Aelod Llafur, Alun Davies AoS, hefyd yno.
Dim ond pedwar diwrnod ynghynt, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwahardd tafarndai, bwytai a chaffis rhag gallu gweini alcohol i gwsmeriaid yng Nghymru.
Mae’r Comisiwn bellach yn ymchwilio i sefydlu beth ddigwyddodd ac a oes angen gweithredu ai peidio. Rhoddwyd y datganiad canlynol i golwg360:
“Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad ar ystâd y Senedd y mis diwethaf a allai fod wedi bod yn groes i reoliadau iechyd cyhoeddus a oedd mewn grym ar y pryd,” meddai llefarydd.
“Mae Comisiwn y Senedd yn cymryd y rheoliadau iechyd cyhoeddus yng Nghymru o ddifrif ac wrthi’n ymchwilio i’r mater ar hyn o bryd er mwyn sefydlu darlun cywir o’r hyn ddigwyddodd ac i benderfynu a allai fod angen gweithredu.”
Ymateb: ‘Dim torri rheolau’
Mewn datganiad ar ran Paul Davies, Darren Millar a Paul Smith, pennaeth staff y Ceidwadwyr Cymreig, maen nhw’n dweud bod “yn flin iawn gennym am ein gweithredoedd”.
“Tra na wnaethon ni dorri’r rheolau, rydym yn cydnabod na fyddai’r hyn oedd yn rhan o’r diwrnod gwaith yn cael ei weld yn dilyn eu hysbryd, yn enwedig o ystyried yr amser anodd mae’r wlad wedi bod yn mynd drwyddo,” meddai’r datganiad.
Mae’r Blaid Lafur bellach wedi rhyddhau datganiad sy’n dweud fod “Aelod wedi cael ei wahardd”.
“Mae aelod wedi cael ei atal o freintiau aelodaeth Grŵp Llafur y Senedd tra bod ymchwiliad yn digwydd i’r digwyddiad honedig hwn,” meddai llefarydd.
Yn ddiweddarach, cafwyd ymateb gan Alun Davies AoS: “Mae’n ddrwg iawn gen i os yw fy ngweithredoedd wedi rhoi’r argraff nad ydw i wedi ymroi mewn unrhyw ffordd i gynnal y rheoliadau yr ydw i wedi’u cefnogi trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.
“Er mwyn cyd-destun, pwrpas y cyfarfod hwn o’m persbectif i oedd ceisio perswadio’r Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi fy nghynnig am “Fil Calonnau Cymru” y gwnaeth y Senedd ei gymeradwyo ar Hydref 21 ac i wneud ymrwymiad i weithredu ar y ddeddfwriaeth hon i achub bywydau yn eu maniffesto ar gyfer etholiad Mai.
“Mae hyn yn rhan o’m gwaith ar draws y pleidiau gwleidyddol ar y mater hwn.
“Mae Comisiwn y Senedd eisoes wedi cadarnhau i mi na wnes i dorri’r rheoliadau coronafeirws ar gael bwyd nac alcohol a oedd yn weithredol ar yr adeg honno.
“Dw i hefyd wedi cadarnhau wrth y Comisiwn na chafodd y rheoliadau ar nifer y bobol oedd yn bresennol ac o ran cadw pellter cymdeithasol eu torri ychwaith.
“Edrychaf ymlaen at gasgliadau terfynol y Comisiwn ar y mater hwn.”
Er ei fod yn cael ei alw’n ‘gyfarfod’, mae adroddiadau fod yr yfed wedi para 7 awr tan 2 y bore.
“Difrifol iawn”
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AoS Plaid Cymru, y dylid atal y pedwar gwleidydd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r mater.
Trydarodd: “Annerbyniol os yn wir. Dylai’r sawl sy’n llunio’r gyfraith wybod yn well.
“Mae’r Senedd fel sefydliad wedi gosod safonau uchel iawn yn ei hymateb i’r pandemig. Dylai ei haelodau hefyd.”
Dywedodd Syr Alistair Graham, cadeirydd pwyllgor safonau cyhoeddus San Steffan rhwng 2003 a 2007, wrth raglen Wales Live y BBC:
“Rwy’n meddwl fod hwn yn fater difrifol iawn oherwydd mae Cymru mewn argyfwng, mae gweddill y Deyrnas Unedig mewn argyfwng.
“Y neges i ni oll yw y bydd dilyn y rheolau’n arbed bywydau.
“Felly, os oes gyda ni wleidyddion, y mae disgwyl iddyn nhw ddangos arweiniad yn y materion hyn, yn torri’r rheolau naill ai’n llythrennol neu o ran ysbryd, yna does dim byd y mae’r cyhoedd yn ei gasáu fwy na rhagrith pobl mewn swyddi uchel.