Roedd gwleidyddion a fu’n yfed alcohol ar ystâd y Senedd yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws yn euog o “ymddygiad difrifol, gwael iawn”, yn ôl Syr Alistair Graham, cyn-gadeirydd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.
Roedd y BBC yn adrodd bod Paul Davies AoS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ynghyd â Darren Millar AoS, a Nick Ramsay AoS, yn yfed gyda’i gilydd yn Nhŷ Hywel, lle mae swyddfeydd gwleidyddion Bae Caerdydd wedi’u lleoli, ar Ragfyr 8.
Roedd yr Aelod Llafur, Alun Davies AoS, hefyd wedi cael ei enwi gan y BBC fel un o’r rhai oedd yno.
Dim ond pedwar diwrnod ynghynt, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwahardd tafarndai, bwytai a chaffis rhag gallu gweini alcohol i gwsmeriaid yng Nghymru.
Maen nhw’n gwadu iddyn nhw dorri’r cyfyngiadau, gan ddweud eu bod nhw wedi cadw pellter cymdeithasol yn ystod cyfarfod i drafodd deddfwriaeth arfaethedig, a’u bod nhw wedi yfed alcohol oedd heb ei brynu ar y safle.
Mae Llafur Cymru wedi cadarnhau gwaharddiad Alun Davies o grŵp y Blaid Lafur yn y Senedd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Galw am ymchwiliad brys
“Dw i’n credu ei fod yn ymddygiad difrifol, gwael iawn gan griw o wleidyddion,” meddai Syr Alistair Graham wrth Radio Wales.
“Dw i’n credu ei fod yn fater difrifol sy’n gofyn am ymchwiliad brys a chamau gweithredu pe bai angen.
“Dw i’n credu bod yn gas gan y cyhoedd ragrith, mae’n gas ganddyn nhw gael gorchymyn gan yr holl wleidyddion i gadw at y rheolau ac yn sydyn iawn, maen nhw’n dod o hyd i enghreifftiau lle mae’n edrych fel pe gallai’r rheolau fod wedi cael eu torri, neu fod yr ymddygiad wedi bod yn amhriodol o ystyried y penderfyniad sydd wedi cael ei wneud i wahardd gwerthu alcohol.
“Dw i’n credu ei bod yn anffodus iawn a byddwn yn meddwl ei fod, fwy na thebyg, yn torri cod aelodau’r Cynulliad drwy ddwyn anfri ar y Senedd.”
Mae’n galw am waharddiad am gyfnod o’r Senedd “i ddangos pa mor gryf mae pawb yn teimlo am eu hymddygiad”.
Etholiadau
Daw’r digwyddiad rai misoedd cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai, ac mae Syr Alistair Graham yn codi cwestiynau ynghylch pa mor addas ydyn nhw fel ymgeiswyr.
“Gydag etholiadau ar y gorwel, rhaid bod y cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r rhain yn bobol addas i gynrychioli’r ddwy blaid dan sylw [y Ceidwadwyr a Llafur].”
Dywedodd fod gwaharddiad Alun Davies yn “briodol” gan ddadlau y “dylai’r Ceidwadwyr fod wedi gwneud yr un fath”.
“Mae Cymru mewn argyfwng, mae gweddill y Deyrnas Unedig mewn argyfwng gyda sefyllfa Covid,” meddai.
“Mae pawb yn cadw at y rheolau’n achub bywydau.
“Mae ymddangos yn ddidaro am y rheolau’n peryglu bywydau.
“Mae hwn yn fater difrifol iawn y dylid ei ddatrys yn gyflym iawn.”
“Peth olaf rydyn ni eisiau ei weld”
Yng nghynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod “angen i bawb edrych ar yr hyn maen nhw wedi’i wneud” yn dilyn yr honiadau.
Pan ofynnwyd a oedd y grŵp wedi pwyso ar staff arlwyo i weini alcohol iddynt, dywedodd Mr Gething: “Dydw i ddim yn gwybod y ffeithiau.
“Dydw i ddim yn meddwl y dylwn i wedyn gamu i mewn ar fater fel hwn lle nad wyf yn ymwybodol o’r holl ffeithiau. Mae awdurdodau’r Senedd yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain ac rwy’n siŵr y bydd diddordeb yn hynny,” meddai.
“Fodd bynnag, yr hyn y byddwn i’n ei ddweud – ac rwy’n credu bod hyn yn eithaf pwysig – yw mai’r peth olaf rydyn ni eisiau ei weld yn digwydd yw bod ymchwiliad yn dod allan a dim ond staff sy’n cael eu taflu o dan y bws.
“Mae angen i bawb edrych ar yr hyn maen nhw wedi’i wneud. Rhaid i ni ddeall effaith lawn yr hyn sydd wedi digwydd a pheidio â rhuthro i farnu, felly nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i’r cwestiwn damcaniaethol.
“Yr hyn y byddaf yn ei ddweud, serch hynny, yw fy hun, wrth ymwneud â staff Comisiwn y Senedd, rwyf bob amser wedi bod yn gwrtais ac yn barchus ac mae’r bobl yr wyf o gwmpas wedi bod yn gwrtais ac yn barchus hefyd.
“Rwy’n sicr yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae ein staff yn ei wneud, mae’r rhain yn bobl sy’n gweithio ac rwy’n ceisio eu trin fel y byddwn i am gael fy nhrin fy hun, p’un a ydynt yn staff arlwyo neu’n staff diogelwch.
“Rwy’n gobeithio bod hynny’n rhywbeth y bydd aelodau, waeth beth fo’u gwleidyddiaeth, i gyd yn cytuno yw’r ffordd gywir o ymddwyn.”
Dywedodd Mr Gething wedyn fod gan bobl “i gyd ran i’w chwarae wrth wneud y peth iawn”.
“Mae pwynt ehangach yma,” meddai, “a hynny yw nad yw … unrhyw ymdeimlad nad yw pobl i gyd yn rhan o hyn gyda’i gilydd yn ddefnyddiol o ran y negeseuon y mae angen i bob un ohonom eu dilyn.
“Alla i ddim bod yn gliriach, mae’r prif weinidog wedi bod yn glir iawn. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth wneud y peth iawn.”
Dywedodd Mr Gething fod y rheolau’n glir na ddylid cymysgu dan do rhwng aelwydydd, ar wahân i ble na ellir osgoi, ac fel rhan o swigod cymorth.
“Byddwn yn gobeithio, nid yn unig y bydd y bobl sy’n destun y diddordeb presennol yn y stori, ond pob un ohonom, yn cofio – po fwyaf cyson yr ydym yn y neges a roddwn i’r cyhoedd, ac yn yr hyn a wnawn wedyn, gorau oll y byddwn, gorau po gyntaf y gallwn ddod allan o’r argyfwng presennol sy’n dal i effeithio ar bob un ohonom ,” ychwanegodd.
Heddlu
Mae llefarydd ar ran Heddlu’r De yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol o ymchwiliad gan Gomisiwn y Senedd ac y byddan nhw’n ymchwilio os oes amheuaeth fod rheoliadau’r coronafeirws wedi cael eu torri.