Mae ap wedi ei lansio yng Nghymru i gefnogi pobol sy’n dioddef o effeithiau hir dymor y coronafeirws, neu ‘Covid hir’.

Mae’r ap dwyieithog, y cyntaf o’i fath, wedi ei ddatblygu gan Grŵp Gweithredu Iechyd Anadlol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Cafodd ei gynllunio fel adnodd pwrpasol a hyfforddwr personol i helpu unigolion wella o’r feirws.

Yn ogystal â chofnodi symptomau, mae’r ap yn cynnwys 100 o fideos a dolenni gan therapyddion, seicolegwyr, dietegwyr ac ymgynghorwyr sydd yn rhoi cyngor i gleifion.

Mae’r ap yn cynnwys 100 o fideos a dolenni gan arbenigwyr

Covid hir

Mae effeithiau Covid hir yn datblygu pan fydd unigolyn wedi’i heintio â’r coronafeirws, neu wedi hynny.

Mae un o bob 10 o bobol sydd wedi cael y coronafeirws yn dioddef rhai symptomau hirdymor sydd yn para am fwy na 12 wythnos, ac nad oes modd eu hegluro gydag unrhyw ddiagnosis arall.

Eglura’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething ein bod yn dal i ddysgu am y feirws.

“Mae’r ap hwn, sef y cyntaf o’i fath, yn cael ei lansio i dawelu meddyliau’r unigolion hynny fod cymorth ar gael iddyn nhw ac nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain,” meddai.

“Mae’r ap hwn yn perthyn i ymdrech ehangach ar lefel genedlaethol sydd wedi cael ei rhoi ar waith i adnabod yr unigolion hynny sydd, fisoedd yn ddiweddarach, yn dal i wynebu amrywiol anawsterau gyda’r galon, yn niwrolegol neu’n seicolegol.

“Gall unrhyw un lawrlwytho’r ap ond rydyn ni hefyd yn gofyn i weithwyr proffesiynol ei argymell i’w cleifion er mwyn i’w gofal allu parhau gartref am gyfnod eto ar ôl i’w hapwyntiad ddirwyn i ben.

“Meddygon teulu sydd yn y sefyllfa orau i gyfeirio eu cleifion at y cymorth priodol, cynnal profion a chwilio am unrhyw symptomau y mae modd eu trin a chyfeirio cleifion at ymgynghorwyr arbenigol yn ôl yr angen. Bydd cymorth ar gael i’r rheini sydd heb ffôn clyfar hefyd felly.”

‘Mwyafrif helaeth yn gwella’

Dywed Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod y “mwyafrif helaeth” yn gwella ar ôl cael Covid-19.

“Ond rydyn ni wedi gweld, yn achos rhai unigolion, ei fod yn gallu cymryd tri mis neu ragor hyd yn oed i’r symptomau setlo,” meddai.

“Mae rôl y meddyg teulu yn gwbl hanfodol i sicrhau bod unrhyw symptomau y gellir eu trin yn feddygol yn cael eu rheoli’n briodol.

“Gall eich meddyg teulu sicrhau eich bod yn cael archwiliad ac yn cael gweld ymgynghorwyr arbenigol pan fo angen. Gallan nhw hefyd helpu i’ch tywys ar eich taith i adfer eich iechyd sydd yn aml iawn yn galw am rywfaint o gymorth adsefydlu yn achos y rhan fwyaf o unigolion. Dyna’r union reswm dros ddatblygu’r ap hwn i helpu unigolion gyda’u hadferiad ar ôl Covid.”