Mae Heledd Fychan, Cynghorydd Sir a Thref dros dref Pontypridd, yn galw am ymchwiliad i lifogydd yng Nghymru gan ddweud wrth golwg360 fod “pobol yn bryderus” unwaith eto am y sefyllfa.

Daw hyn wrth i Storm Christoph ddod â glaw trwm i rannau o Gymru, gyda’r Swyddfa Dywydd yn rhoi rhybudd melyn.

Fe allai hyd at 200mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 10 rhybudd am lifogydd.

Mae disgwyl i’r glaw trymaf daro gogledd-orllewin Cymru, gyda Heddlu’r Gogledd hefyd yn rhybuddio pobol am beryglon Storm Christoph.

‘Dydyn ni dal ddim callach’

“Mae’r afon yn uchel iawn ym Mhontypridd, ac mae pobol yn bryderus iawn yn sgil y rhybudd melyn,” meddai Heledd Fychan.

Gofynnodd golwg360 wrthi a oedd gwersi wedi cael eu dysgu ers llifogydd y flwyddyn ddiwethaf.

“Nac ydw, ddim o gwbl, dyna sy’n bryderus i bobol sy’n wynebu rhybuddion llifogydd,” meddai.

“Dydyn ni dal ddim callach be’ ddigwyddodd pan oedd llifogydd difrifol blwyddyn dwytha’, a dw i’n hynod bryderus bod yr atebion ddim gena’ ni a bod y buddsoddiad heb gael ei wneud.

“Mae’r afon yma ym Mhontypridd mor uchel ac mae hi’n dal i fwrw glaw.

“Os na chawn ni ymchwiliad a buddsoddiad digonol, bydd hyn yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Mae angen i ni fod yn onest efo cymunedau sydd mewn risg o lifogydd o be di’r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae’r Llywodraeth wedi sôn am fuddsoddiad, amddiffynfeydd ac ati, ond oes yna fodfedd o ddŵr yn eich cartref tydi o ddim ots am beth mae’r Llywodraeth wedi ei ddweud.”

“Mae mwy i’w wneud o hyd…”

Dywedodd Andrew Morgan, Arweinydd Llafur Cyngor Rhondda Cynon Taf, fod ei ardal leol yn gweithio i amddiffyn ei hun rhag Storm Christoph.

Achosodd stormydd Ciara a Dennis ym mis Chwefror 2020 ddifrod o £70 miliwn i bontydd a waliau afonydd yn yr ardal, ac mae rhai ohonynt yn dal i gael eu hatgyweirio, yn ôl Andrew Morgan.

“Mae cryn dipyn o waith atgyweirio wedi’i wneud ond mae mwy i’w wneud o hyd … Mae gennym nifer o griwiau wrthi’n paratoi ar gyfer heddiw,” meddai.

“Rydym wedi cael rhywfaint o lifogydd lleol ond dim llifogydd afonydd hyd yma.

“Mae uwch swyddogion yn cwrdd â mi a byddwn yn trafod a oes angen cymryd camau pellach cyn y glaw trwm yn nes ymlaen.

“Mae gennym staff yn llenwi cannoedd yn fwy o fagiau tywod nawr.”

Llifogydd ger Trefforest

Gwleidyddion Pontypridd yn galw am asesiad o effaith y llifogydd ar iechyd meddwl

Cyhoeddi adroddiad yn cynnig chwe argymhelliad i fynd i’r afael â llifogydd yn yr ardal