“A phob parch i’r Cymry”, byddai’r Deyrnas Unedig yn dod i ben pe bai’r Alban yn ennill annibyniaeth, yn ôl cyn-Ganghellor San Steffan, George Osborne, mewn darn diweddar i’r Evening Standard, papur y mae’n Brif Olygydd arno.
Yn y darn, mae’n tynnu sylw at y refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn 2014, a’r gred bryd hynny fod “cenedlaetholdeb Albanaidd wedi’i rhoi o’r neilltu am genhedlaeth”.
Nid dyna yw ei safbwynt yntau bellach, meddai, a “thrwy ddatffrwyno cenedlaetholdeb Seisnig mae Brexit wedi troi dyfodol y Deyrnas Unedig yn bwnc llosg am y degawd sydd o’n blaenau”.
Mae’n dadlau bod Iwerddon unedig eisoes yn nesáu at fod yn realiti, ond mae’n credu mai ymadawiad yr Alban fyddai’r ergyd fwyaf.
“Mae’r Alban yn fater gwbl wahanol,” meddai.
“Mae eu hanes hithau yn rhan o’n hanes ninnau.
“Mae ei chyfraniad i’r byd- trwy lenyddiaeth ac athroniaeth, antur a chelf – yn rhan o’n cyfraniad ni.
“Pe bai’n gadael – â phob parch i’r Cymry – byddai’r Deyrnas Unedig, yn ei hanfod, yn dod i ben.
“Byddai gweddill y byd yn gweld yn syth ein bod ni dim yn bŵer rheng flaen – na hyd yn oed ail reng.
“Buasem ni’n diweddu fyny yn enghraifft arall hanesyddol a diddorol o sut mae’r cenhedloedd llwyddiannus yn medru gwireddi hunanladdiad cenedlaethol annisgwyl.”
Yr Alban a Chatalwnia
Yn ddiweddarach yn y darn, mae’n dweud y dylid gwrthod gadael i’r Albanwyr gynnal refferendwm annibyniaeth.
“Dyna’r unig ffordd y gallwch chi sicrhau na fyddwch yn colli,” meddai.
“Byddan. Mi fydd yr SNP yn codi stŵr – ond does dim ots am hynny (so what?).”
Mae’n cydnabod y gallai Llywodraeth yr Alban gynnal pleidlais heb gydsyniad Llywodraeth San Steffan, ond byddai hynny’n “anghyfreithlon”.
“Gofynnwch i’r Catalwniaid sut hwyl gawson nhw â’u pleidlais anghyfreithlon hwythau,” meddai.