Mae’r cogydd blaenllaw Chris Roberts wedi denu sylw un o newyddiadurwyr bwyd mwyaf blaenllaw gwledydd Prydain.

Mae Jay Rayner, sydd wedi gweithio i nifer o’r papurau newydd Prydeinig mwyaf, wedi postio dolen i raglen ‘Bwyd Epic Chris’, gan ddweud mai gwylio’r rhaglen honno yw ei “top displacement activity”, hynny yw “gweithgaredd sy’n ymddangos yn amhriodol, megis crafu pen mewn dryswch, sydd fel pe bai’n codi yn yr isymwybod pan na all gwrthdaro rhwng ysfeydd gwrthwynebus gael ei ddatrys”.

Mae’r fideo yn dangos Chris Roberts, neu @flamebuster ar Twitter, yn coginio “cig eidion wedi’i aeddfedu efo halen, pasta mewn olwyn anferth o gaws gyda wisgi Cymreig, a mwy”, yn ôl y disgrifiad ar BBC iPlayer.

Dywed Jay Rayner yn y neges mai ei “top displacement activity” yw “gwylio Cymro mawr barfog o’r enw Chris Roberts AKA @flamebuster, yn gwneud brechdanau stecen ar fryniau Cymru, yn Gymraeg”.

Ychwanega wedyn, “Dw i ddim yn deall gair, ond dw i hefyd yn deall popeth”.

Ac mae Chris Roberts wedi ymateb i’r neges: