Mae Boris Johnson wedi goroesi gwrthdystiad gan griw o 33 o aelodau seneddol Ceidwadol oedd eisiau atal cytundebau masnach â gwledydd sy’n euog o hil-laddiad.

Cafodd mwyafrif prif weinidog Prydain o 87 ei gwtogi i 11 yn y bleidlais i wydroi gwelliant i’r Bil Masnach, wrth iddo ennill o 319 o bleidleisiau i 308.

Byddai’r gwelliant wedi gorfodi gweinidogion i dynnu’n ôl o unrhyw gytundebau masnach ag unrhyw wledydd sydd yn cyflawni hil-laddiad yn ôl yr Uchel Lys.

Ymhlith y gwrthdystwyr roedd cyn arweinydd y blaid, Syr Iain Duncan Smith, sy’n dweud y bydd rhagor o welliannau’n cael eu cyflwyno maes o law, ac mae disgwyl hynny ar ôl i’r Arglwyddi graffu arno.

Fe wnaethon nhw gyflwyno gwelliant arall am rôl y llysoedd mewn cytundebau masnach, ond doedd dim pleidlais ar hwnnw.

Mae Syr Iain Duncan Smith yn galw am derfyn ar “anwybodaeth fwriadol” ynghylch diffyg hawliau dynol mewn gwledydd fel Tsieina, lle mae Mwslimiaid Uighur yn cael eu herlid, gan rybuddio “na fyddwn ni’n gwerthu ein gwerthoedd am gytundebau masnach â gwladwriaethau hil-laddol”.

Mae’r cyn-weinidog Tobias Ellwood, un arall o’r gwrthdystwyr, yn dweud ei fod yn “drist” o orfod gwrthdystio.

Wrth amddiffyn safiad Llywodraeth Prydain, dywed Greg Hands, y Gweinidog Masnach, y byddai’r llywodraeth yn gweithredu yn erbyn unrhyw wlad sy’n cael ei hamau o hil-laddiad cyn masnachu â’i llywodraeth.

Mae’n mynnu nad oes bwriad i fasnachu â Tsieina ar hyn o bryd.

Gwrthdystiadau

Fe wnaeth deg aelod seneddol Ceidwadol gefnogi gwelliant arall gan yr Arglwyddi i roi mwy o lais i’r Senedd ar gytundebau masnach ôl-Brexit.

Ond fe wnaeth aelodau seneddol bleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw ar y cyfan, o 353 i 277, sef mwyafrif o 76.

Fe wnaeth aelodau seneddol ddileu sawl gwelliant arall, gan gynnwys un yn ceisio gwarchod y Gwasanaeth Iechyd ac un arall yn galw am gôd ymarfer ar gyfer safonau bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd, hawliau dynol a chyfreithiau llafur.