Mae pentref yn India yn dathlu heddiw (dydd Mercher, Ionawr 20), wrth i Kamala Harris ddod yn ddirprwy arlywydd yr Unol Daleithiau.

Kamala Harris yw’r person croenddu cyntaf a’r person cyntaf o dras Asiaidd i’w hethol yn ddirprwy arlywydd.

Daw teulu ei thad-cu ar ochr ei mam o bentref bach Thulasendrapuram, sydd ryw 215 o filltiroedd o ddinas Chennai (Madras), lle bydd dathliadau’n cael eu cynnal i nodi’r achlysur.

Yn ôl Anukampa Madhavasimhan, athrawes 52 oed yn y pentref, mae trigolion y pentref “yn falch iawn” o’i llwyddiant.

Symudodd tad-cu Kamala Harris o Chennai, prifddinas talaith Tamil Nadu yn ne’r wlad, i’r Unol Daleithiau rai degawdau’n ôl.

Cafodd ei mam ei geni yn India cyn iddi symud i’r Unol Daleithau i astudio yng Nghaliffornia, a phriododd hi dad Kamala Harris, a hwnnw’n hanu o ynys Jamaica yn y Caribî.

Ystyr yr enw Kamala yw lili’r dŵr (lotus).

Seremoni Hindwaidd

Cyn yr etholiadau arlywyddol fis Tachwedd, daeth trigolion pentref Thulasendrapuram ynghyd ar gyfer seremoni mewn teml Hindwaidd i ddymuno’n dda i Kamala Harris.

Yn dilyn ei buddugoliaeth, roedd tân gwyllt a chafodd blodau a losin eu cynnig yn rhodd i’r pentrefwyr.

Mae posteri ohoni yn dal ar waliau’r pentref, a’r gobaith yno yw y bydd digwyddiad hanesyddol arall yn 2024 ac mai hi fydd yr arlywydd nesaf, wrth i’r ansicrwydd ynghylch ail dymor posib Joe Biden barhau.

Mae disgwyl i bobol weddïo yn y deml cyn y seremoni urddo heddiw, a bydd trigolion y pentref yn golchi delw o Ayyanar, ffurf ar yr Arglwydd Shiva, mewn llaeth a’i gorchuddio gan flodau.

Ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 19), cafodd pecynnau bwyd llysieuol eu hanfon i blant y pentref yn rhodd i ddathlu’r achlysur.