Bydd Joe Biden yn cael ei urddo’n 46ain Arlywydd yr Unol Daleithiau heddiw (dydd Mercher, Ionawr 20), gan gymryd rheolaeth o genedl ranedig ac etifeddu cyfres o argyfyngau.
Daw urddo Joe Biden bythefnos yn unig ar ôl protestiadau treisgar gan gefnogwyr Donald Trump wrth iddyn nhw geisio meddiannu adeiladau’r Gyngres yn Washington ar Ionawr 6.
A fydd dim torfeydd yn bresennol oherwydd pandemig y coronafeirws.
Dydy arlywyddiaeth Joe Biden ddim wedi cael ei gymeradwyo, na’i gydnabod hyd yn oed, gan ei ragflaenydd.
Cynlluniodd Donald Trump i adael Washington fore Mercher (Ionawr 20) yn hytrach na mynd gyda’i olynydd i’r Capitol.
Dadwneud calon agenda Donald Trump
Ar ei ddiwrnod cyntaf, bydd Joe Biden yn cymryd cyfres o gamau gweithredol — ar y pandemig, yr hinsawdd, mewnfudo a mwy — i ddadwneud calon agenda Donald Trump.
“Bydd Biden yn wynebu cyfres o argyfyngau brys, llosg fel nad ydym wedi’u gweld o’r blaen, ac mae’n rhaid eu datrys i gyd ar unwaith,” meddai’r hanesydd arlywyddol Michael Beschloss.
“Rwy’n credu ein bod wedi bod drwy brofiad o farwolaeth, bron, fel democratiaeth.
“Mae Americaniaid fydd yn gwylio’r Arlywydd newydd yn cael ei urddo bellach yn ymwybodol iawn o ba mor fregus yw ein democratiaeth a faint y mae angen ei ddiogelu.”
Creu hanes
Yn 78 oed, Joe Biden fydd yr Arlywydd hynaf i gael ei urddo.
Bydd digwyddiad hanesyddol arall ar ddiwrnod yr urddo hefyd, gan mai Kamala Harris yw’r ddynes gyntaf i fod yn is-Arlywydd.
Hi hefyd yw’r person croenddu cyntaf a’r person cyntaf o dras Asiaidd i’w hethol yn ddirprwy arlywydd.
Er gwaethaf rhybuddion diogelwch, mae Joe Biden wedi gwrthod symud y seremoni dan do ac yn hytrach, bydd yn annerch torf fach, gyda rheolau pellter cymdeithasol mewn grym.
Thema araith Joe Biden fydd uno America, a neilltuo gwahaniaethau yn ystod argyfwng cenedlaethol.
Yna, bydd yn goruchwylio ‘Pass In Review’, traddodiad milwrol sy’n cynrychioli trosglwyddo pŵer yn heddychlon i arweinydd newydd.
Yn hwyrach, bydd yn ymuno â diwedd gorymdaith agoriadol wrth iddo symud i’r Tŷ Gwyn.
Oherwydd y pandemig, bydd llawer o’r orymdaith eleni yn rhithiol, ac yn cynnwys perfformiadau o bob cwr o’r wlad.