Mae darpar-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, wedi cyhoeddi cynllun coronafeirws gwerth $1.9 triliwn (£1.4 triliwn) er mwyn cyflymu’r broses o roi brechlyn Covid ac adfer yr economi.
Nod y cynllun yw sicrhau y bydd 100 miliwn dos o’r brechlyn wedi cael eu rhoi erbyn i Joe Biden fod yn y swydd am 100 niwrnod, gyda’r gobaith o ail-agor y rhan fwyaf o ysgolion erbyn y gwanwyn.
Bydd arian hefyd i geisio sefydlogi’r economi a siec o £1,025 ar gyfer y rhan fwyaf o Americanwyr, a hynny yn ychwanegol i’r £440 sydd eisoes wedi cael ei roi i helpu pobl yn ystod y pandemig, gan ddod a’r cyfanswm i £1,465.
Bydd cynnydd dros dro hefyd mewn budd-daliadau diweithdra a chynnydd yn yr isafswm cyflog i £11 yr awr, a chredydau treth i deuluoedd gyda phlant.
“Rhaid gweithredu nawr”
Mae llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr Nancy Pelosi ac arweinydd y Democratiaid yn y Senedd Chuck Schumer wedi dweud y byddan nhw’n gweithredu’n gyflym i sicrhau bod y mesurau’n cael eu cymeradwyo ar ôl i Joe Biden gymryd yr awenau ddydd Mercher nesaf.
Ond mae disgwyl i’r Gweriniaethwyr wrthwynebu rhai o’i argymhellion, gan gynnwys cynyddu’r isafswm cyflog.
“Does dim amser i’w wastraffu,” meddai Joe Biden. “Mae’n rhaid i ni weithredu ac mae’n rhaid gweithredu nawr.”
Byddai’n rhaid iddo ddibynnu ar fenthyciadau i dalu am y cynllun gan ychwanegu at y dyledion enfawr sydd eisoes wedi cronni yn sgil y pandemig.
Ond mae disgwyl i Joe Biden ddadlau bod y gwariant a benthyciadau ychwanegol yn hanfodol er mwyn atal yr economi rhag crebachu ymhellach.
Hyd yn hyn mae mwy na 385,000 o bobl wedi marw o Covid-19 yn yr Unol Daleithiau.