Fferyllfa yn Llanbedrog ger Pwllheli yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig brechlyn Covid-19.
Daw hyn wedi i Fferylliaeth Gymunedol Cymru alw am gyflymu’r broses ar ôl i chwe fferyllfa yn Lloegr ddechrau cynnig brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ddydd Iau, Ionawr 14.
“Dylid gwahodd pob fferyllfa gymunedol sy’n darparu brechlyn ffliw ar hyn o bryd i gymryd rhan ac ni ddylid gwrthod unrhyw fferyllfa gymunedol sy’n mynegi diddordeb,” meddai Fferylliaeth Gymunedol Cymru mewn datganiad.
Mae 600 o fferyllfeydd yng Nghymru eisoes yn darparu brechlynnau i atal y ffliw.
Yn y Senedd ddydd Mawrth, Ionawr 12, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai’r cynllun peilot yn dechrau mewn fferyllfa yng Ngogledd Cymru erbyn diwedd yr wythnos.
‘Nifer sylweddol’ o frechlynnau heb eu defnyddio
Yn y cyfamser mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Cymreig bod “nifer sylweddol” o frechlynnau Covid yng Nghymru heb eu defnyddio eto.
Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor Stephen Crabb AS i Simon Hart a oedd problem cyflenwi wrth ddosbarthu brechlynnau i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rhywle yn y system yng Nghymru mae nifer sylweddol, hyd yn oed wrth i ni siarad, o frechlynnau sydd wedi’u darparu ac nad ydynt wedi’u rhoi i feddygfeydd meddygon teulu na lleoliadau clinigol eraill lle y gallent gael eu defnyddio.
“Dydw i ddim yn gwybod pam. Y cyfan rwy’n ei wybod yw bod y 300,000 o frechlynnau wedi’u darparu. Ac eto dim ond tua thraean o’r rheini sydd wedi’u gweinyddu. Dydw i ddim mewn sefyllfa i ateb pam y gallai hynny fod.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Cymru wedi derbyn mwy na 250,000 dos o’r brechlyn Pfizer fis Rhagfyr, ond y bu’n rhaid cadw 50% ohono wrth gefn ar gyfer ail ddosau o dan y rheolau oedd ar waith ar y pryd.
Fodd bynnag, mae newid yn y rheolau ers Rhagfyr 30 yn golygu y gellir rhoi ail ddosau hyd at 12 wythnos ar ôl y cyntaf, sy’n golygu nad oes bellach angen cadw’r brechlynnau wrth gefn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw yn disgwyl defnyddio’r holl stoc yma erbyn canol mis Chwefror.