Mae S4C yn rhoi 80 awr o raglenni i blant ar Hwb, safle addysg Llywodraeth Cymru ar y We.

Gydag ysgolion ar gau i’r mwyafrif, a disgyblion yn derbyn rhywfaint o’u haddysg ar-lein, mae’r Sianel Gymraeg yn awyddus i “gefnogi athrawon a rhieni mewn cyfnod anodd”.

“Mae ein hymrwymiad i addysg yn flaenoriaeth fawr i ni,” meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

“Mae ein cynnwys wedi ei deilwra yn arbennig i gyd fynd gyda’r cwricwlwm ac i alluogi athrawon ac arbenigwyr pwnc i greu adnoddau law yn llaw â’r rhaglenni.

“Mae ein harlwy plant yn hynod boblogaidd ac yn rhan o amryw o weithgareddau ychwanegol mae S4C wedi bod yn trafod gyda’r sector addysg yng Nghymru.

“Ry’n ni’n falch iawn o allu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynlluniau hyn gyda’r bwriad o ysbrydoli plant a phobl ifanc gan sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn ffynnu.”

‘Amhrisiadwy’

Fe fydd y rhaglenni ar gael o ddydd Llun ymlaen, ac mae’r newyddion wedi cael croeso gan y Gweinidog Addysg.

“Mae Hwb, ein platfform dysgu ar-lein blaenllaw, wedi bod yn amhrisiadwy i athrawon a dysgwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddarparu adnoddau rhagorol i gefnogi dysgu ar-lein,” meddai Kirsty Williams.

“Gall rhaglenni teledu o safon hefyd fod yn adnoddau addysgol gwerthfawr iawn, yn enwedig i deuluoedd lle nad yw’r Gymraeg fel arfer yn cael ei siarad gartref.”

Yn ogystal â 13 cyfres wahanol i blant, bydd ffilmiau a chynnwys sydd ar y cwricwlwm Lefel A, AS a TGAU hefyd yn cael eu hychwanegu i’r porth gan gynnwys y ffilm Martha Jac a Sianco, a chyfres dditectif Y Gwyll.

Her i rieni di-Gymraeg

Drwy gydweithio gyda BBC Cymru, bydd S4C hefyd yn darlledu pecynnau addysgol BBC Bitesize o ddydd Llun i ddydd Gwener am 11.45 y bore. Bydd pob rhaglen ar thema benodol ac yn addas i gyfnod allweddol 2 a 3 ac yn amrywio o ran pynciau gan gynnwys Hanes, rhifedd, llythrennedd a Gwyddoniaeth.

Mae Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, yn gobeithio bydd y ddarpariaeth newydd yn “golygu y bydd plant yn parhau i allu clywed yr iaith Gymraeg yn eu cartrefi”.

“Gall fod yn her i rieni di-Gymraeg i sicrhau parhad ieithyddol eu plant yn ystod y cyfnod hwn ac mae’r bartneriaeth rhwng BBC Bitesize ac S4C yn ein caniatau i ddarlledu pecynnau addysgol Cymraeg ar deledu,” meddai.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lansio ddydd Llun, Ionawr 18.