Mae Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’r swydd yn y gwanwyn.
Daw hyn ar ôl gyrfa o fwy na 40 mlynedd yn gweithio i wahanol gynghorau’r ardal, ac mae wedi bod yn Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd ers 2014.
“Ar ôl gweithio mewn llywodraeth leol yn ardal Gwynedd ers 1979, a chael yr anrhydedd o fod yn Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd am y saith mlynedd diwethaf, rwyf wedi penderfynu mai rŵan ydi’r amser iawn i ymddeol a throsglwyddo’r awenau,” meddai Dilwyn Williams sy’n 63 oed.
“Mae hi wedi bod yn fraint cael arwain gweithlu ymroddedig ac effeithiol, a byddaf yn gweld eisiau cwmni arbennig fy nghydweithwyr a’r gwir ymdeimlad o deulu sy’n bodoli yng Nghyngor Gwynedd.”
Dechreuodd Dilwyn Williams ei yrfa mewn llywodraeth leol yng Ngwynedd fel Clerc Pwyllgor yr hen Gyngor Sir yng Nghaernarfon, cyn symud ymlaen i Adran Trysorlys Cyngor Dwyfor.
Ym 1996 fe gafodd ei benodi yn Bennaeth Cyfrifeg Cyngor Gwynedd, cyn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Strategol Adnoddau ac yn ddiweddarach daeth yn Gyfarwyddwr Corfforaethol.
“Sgidiau mawr i’w llenwi”
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weithredwr, mae Dilwyn wedi chwarae rhan allweddol yng ngwaith y Cyngor yn yr amser mwyaf heriol yn hanes yr awdurdod.
“Mae o wedi arwain ar y gwaith o amddiffyn y gwasanaethau allweddol y mae preswylwyr yn dibynnu arnynt yn wyneb toriadau difrifol mewn cefnogaeth ariannol gan y llywodraeth.
“Cyflawnwyd hyn trwy gyflwyno newidiadau radical i drefniadau gweithio trwy weledigaeth Ffordd Gwynedd a ddatblygwyd ganddo.
“Trwy gydol ei amser gyda’r Cyngor, mae Dilwyn wedi bod yn eiriolwr cadarn a diflino dros bobl a chymunedau Gwynedd mewn trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
“Mae’n gadael esgidiau mawr i’w llenwi, ond diolch i’r newidiadau y mae wedi’u rhoi ar waith, bydd Dilwyn yn gadael y Cyngor gan wybod bod Gwynedd mewn sefyllfa gadarn i allu cyfarch heriau’r misoedd i ddod wrth i ni, gobeithio, symud tuag at y cyfnod ar ôl y coronafeirws.”