Dilwyn Williams
Un o uchel swyddogion Cyngor Gwynedd sydd wedi ei benodi yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Gwynedd.

Bydd Dilwyn Williams yn cymryd lle’r Prif Weithredwr cyfredol, Harry Thomas, a fydd yn ymddeol o’r swydd £108,000 y flwyddyn yn yr haf.

Ac mae wedi rhybuddio y bydd rhaid i’r cyngor fynd i’r afael â thoriadau gwerth tua £50 miliwn yn ystod y tair blynedd nesa’.

Roedd Harry Thomas wedi dweud fod angen prif weithredwr newydd i arwain y cyngor wrth iddyn nhw wynebu “cyfnod heriol” dros y blynyddoedd nesaf a chafodd y penodiad ei wneud mewn cyfarfod llawn o’r cyngor heddiw.

Cefndir

Mae Dilwyn Williams, sy’n wreiddiol o Lanelwy, wedi gweithio ym myd Llywodraeth Leol ers 1979.

Yn 1996, cafodd ei benodi i fod yn Bennaeth Cyfrifeg Cyngor Gwynedd cyn cael ei ddewis i fod yn Gyfarwyddwr Strategol Adnoddau ac yn fwy diweddar yn Gyfarwyddwr Corfforaethol i’r Cyngor.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfed Edwards mai fo yw’r “unigolyn delfrydol i symud Gwynedd yn ei flaen yn y cyfnod newydd yma”.

“Mae cefndir a phrofiad Dilwyn yn golygu ei fod yn ddelfrydol i arwain y gwaith cynllunio ariannol manwl sydd ei angen i’n cynnal drwy’r cyfnod anodd hyn er mwyn lleihau’r bwrn ar drigolion gymaint ag sy’n bosib.”

  • Mae Dilwyn arall wedi ei benodi yn Is-gadeirydd y Cyngor – Dilwyn Morgan, y cynghorydd, y digrifwr a’r dyn busnes.