Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Mae dyn 47 oed wedi marw yn dilyn damwain ffordd yn Abertawe neithiwr.

Bu farw Clifford Terrence Stroud o’i anafiadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn dilyn y ddamwain ar ffordd gyfagos i Barc Carafanau Riverside ger Ynysforgan.

Digwyddodd y ddamwain am tua 5:50 yr hwyr pan aeth car ystâd arian Ford Mondeo oddi ar y ffordd a tharo coed gerllaw.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r ddamwain ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.