Cyngor Sir Benfro
Fydd dim gorfodaeth ar Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro i dalu’n ôl y cyflog yr oedd wedi ei dderbyn ar gam.

Fe bleidleisiodd cynghorwyr y sir heddiw i ofyn i Bryn Parry Jones ac un uwch swyddog arall ddychwelyd yr arian ond, yn ôl lleafrydd, does dim penderfyniad am yr hyn fydd yn digwydd os ydyn nhw’n gwrthod.

Mae’r cais yn gofyn iddyn nhw dalu’n ôl fwy na £45,600 ond heb y cyfraniadau treth ac yswiriant cenedlaethol.

Fe gafodd geiriad y cynnig ei newid o “mynnu” i “gofyn” cyn i’r cynghorwyr bleidleisio o fwyafrif o 32 i 21 mewn cyfarod arbennig.

Y cefndir

Swyddfa Archwilio Cymru oedd wedi tynnu sylw at y problemau gan ddweud bod Cyngor Sir Benfro a Chyngor Sir Gaerfyrddin wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy wneud taliadau amhriodol i brif swyddogion.

Mae Prif Weithredwr Shir Gâr, Mark James, wedi gadael ei swydd tros dro ond mae Prif Weithredwr Sir Benfro, Bryn Parry Jones, yn dal i fod wrth ei ddesg.

Mae Heddlu Swydd Caerloyw’n ymchwilio i’r taliadau.