Neil McEvoy
Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd wedi galw ar y cyngor i ddiddymu ei Gynllun Datblygu Lleol ar ôl i un ardal bleidleisio’n ei erbyn mewn refferendwm.

Ac mae wedi galw ar i ardaloedd ar draws Cymru “godi yn erbyn” eu cynlluniau datblygu lleol nhwthau trwy gynnal pleidleisiau lleol.

“Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn broblem ar draws Cymru,” meddai Neil McEvoy. “Dw i’n apelio ar Gymru gyfan i godi trwy’r blwch pleidleisio a chwalu’r Cynlluniau Datblygu Lleol anneomcrataidd, sy’n rhoi elw i gwmnïau mawr.”

Daeth galwad y cynghorydd yn dilyn canlyniad refferendwm yn Ward Tyllgoed, lle dywedodd 98% eu bod nhw’n gwrthwynebu’r cynllun.

‘Dim ond 31 o blaid’

O ran ffigurau, mae’n golygu mai 31 allan o 10,000 o drigolion Tyllgoed a gefnogodd y cynllun, gyda 1311 yn erbyn.

Roedd hynny, meddai Neil McEcvoy, er nad oedd hawl i bleidleiswyr bleidleisio trwy’r post ac mai dim ond am ychyydig oriau yr oedd y gorsafoedd pleidleisio’n agored.

Mae ymgyrch ar droed eisoes i gynnal pleidleisiau tebyg yng ngweddill Caerdydd.

Fe fyddai’r Cynllun Datblygu Lleol yn arwain at godi mwy na 45,000 o dai newydd yn y ddinas erbyn 2026.

‘Celwydd’

Mae Plaid Cymru’n cyhuddo Llafur o “ddweud celwydd” gan y byddai hynny’n golygu adeiladu ar feysydd glas.

Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, meddai, wedi gwadu unrhyw fwriad i wneud hynny, ac mae yntau’n dadlau tros ddefnyddio tir sydd ar gael eisoes.

“Yr ateb syml i Gaerdydd yw adnewyddu’r 10,000 o eiddo gwag tymor hir yn Ne Ddwyrain Cymru, adeiladu ar safleoedd tir brown addas a chynllunio’n rhanbarthol o amgylch is-adeiledd trafnidiaeth,” meddai.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru basio mesur ar frys i amddiffyn ein safleoedd tir gwyrdd.”

Roedd y bleidlais yn y Tyllgoed yn rhan o’r ymgyrch Dim LDP sydd wedi ei sefydlu i ymladd y cynlluniau.

Fe fydd cyfarfod refferendwm yn cael ei gynnal yn Nhreganna ar 27 Mai ac mae disgwyl i drigolion sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau gynnal refferendwm mewn sawl ardal ledled y ddinas.

“Dim ond y dechrau yw hyn”, meddai Neil McEvoy.

‘Camwarwain’

Yn y gorffennol, mae cynghorwyr Llafur yn y ddinas wedi cyhuddo Plaid Cymru o gyhoeddi gwybodaeth gamarweiniol am y cynllun, er enghraifft tros fwriad i adeiladu ffordd dram trwy rannau o’r ddinas, gan gynnwys y Tyllgoed.

Yr ymgyrch yn erbyn oedd yn cynnal y refferendwm.