Ysbyty Glan Clwyd
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro ar ôl i fam gwyno bod meddyg wedi ei beirniadu am siarad Cymraeg â’i merch.
Fe aeth Dorothy Williams â’i merch i Uned Ddamweiniau Ysbyty Glan Clwyd yn gynharach yn yr wythnos i dderbyn triniaeth.
Ond fe ofynnodd meddyg yn yr ysbyty wrthyn nhw am beidio â siarad Cymraeg neu fe fyddai hi’n ystyried ei fod yn sarhad personol.
‘Siomi’
Mae’r Bwrdd Iechyd nawr wedi ymddiheuro am sylwadau’r meddyg, gan ddweud eu bod wedi siomi bod y sylw wedi cael ei gwneud.
“Allwn ond ymddiheuro am y sylw ansensitif ac annerbyniol hwn,” meddai llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd wrth golwg360.
“Fel Bwrdd Iechyd, rydym wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi’r iaith Gymraeg – dyna yw iaith gyntaf llawer o’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau a siom yw clywed bod y fath sylw wedi’i wneud.
“Er nad yw pob un o’n staff yn siarad Cymraeg, ein nod yw darparu gwasanaeth dwyieithog lle bynnag bo’n bosibl a byddem yn disgwyl i gydweithwyr drin ein cleifion gyda pharch.”
‘Sarhad personol’
Dywedodd Dorothy Williams fod ei merch yn gofidio’n fawr yn ystod ei hymweliad â’r ysbyty, a bod y ddwy ohonyn nhw wedi sgwrsio yn eu mamiaith i drafod y sefyllfa.
Ond fe gythruddwyd y ddwy pan ddywedodd y meddyg wrthynt y byddai’n ystyried ei fod yn sarhad personol petaen nhw’n parhau i siarad Cymraeg o’i blaen hi.
Fe heriodd y ferch y meddyg gan fynnu fod ganddi hawl i siarad Cymraeg yn yr ysbyty, gyda Dorothy Williams yna’n gofyn am feddyg arall i ddelio ag achos ei merch yn dilyn y digwyddiad.
Roedd Dorothy Williams wedi tynnu sylw at y mater i ddechrau trwy wefan Facebook.