Nigel Evans (PA)
Fe gafodd y gwleidydd o Gymro, Nigel Evans, ei groesawu’n ôl i Dŷ’r Cyffredin dair wythnos ar ôl ei gael yn ddieuog o gyfres o ymosodiadau rhyw.

Fe ddywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrew Lawnsley, ei fod yn falch o’i weld wrth i’r AS, sy’n wreiddiol o Abertawe, ofyn cwestiwn yn sesiwn fusnes y Tŷ – y tro cynta’ iddo siarad yno ers yr achos.

Fe gafwyd Nigel Evans, sy’n cynrychioli Dyffryn Ribble yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn ddieuog o 13 o gyhuddiadau o naw chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ddynion.

Meddwi

Ond, yn ystod yr achos llys, fe ddaeth yn amlwg ei fod wedi ymyrryd yn rhywiol gyda dynion fwy nag unwaith pan oedd wedi meddwi.

Roedd wedi cael ei ddiarddel o’r grŵp Ceidwadol yn Nhŷ’r Cyffredin tros gyfnod yr ymholiadau a’r achos llys, ond fe gafodd y chwip yn ôl ddechrau’r wythnos.

Roedd hefyd wedi ymddiswyddo o fod yn Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin ond does dim disgwyl iddo gynnig am y swydd honno eto.