Jennifer Jones (PA)
Mae athrawes o Gymru wedi apelio ar lys i beidio â’i chael yn euog o ddirmyg llys a’i charcharu am frwydr gyda’i chyn-ŵr tros eu plant.

Yn ôl Jennifer Jones o Lanelli, roedd hi wedi “gwneud ei gorau” i fynd â dau o’i phump plenty yn ôl at eu tad sy’n byw yn Sbaen.

“Er gwaetha’ fy ymdrechion, maen nhw’n ei gwneud hi’n amhosib i fi fynd â nhw,” meddai’r wraig 47 oed wrth Adran Deuluoedd yr Uchel Lys yn Llundain.

‘Torri gorchymyn’

Mae ei chyn-ŵr, Tomas Palacin Cambra, 54, yn dweud ei bod hi wedi torri gorchymyn llys i fynd â’r plant, ei bod hi felly’n euog o ddirmyg llys ac y dylai gael ei charcharu.

Mae’r ddau blentyn, sy’n 16 ac 14, wedi bod ynghanol brwydr rhwng y ddau riant ers bron ddwy flynedd – ym mis Hydref 2012, fe gafodd sylw’r Uchel Lys ei dynnu at yr achos pan ddiflannodd Jennifer Jones.

Mae llys yn Sbaen wedi gorchymyn y dylai’r ddau blentyn fyw gyda’u tad a’u tri brawd a chwaer yno.