Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu’r hyn maen nhw’n ei alw’n ddiffyg ymateb gan Lywodraeth Cymru i ddeiseb gyda 5,000 a mwy o enwau arni, yn galw am weithredu ar fater ail gartrefi yng Nghymru.
Roedd y ddeiseb, sydd â 5,386 o lofnodion, yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r pŵer i gynghorau reoli nifer yr ail gartrefi yn eu hardaloedd.
Ym mis Tachwedd dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, y byddai’n “gwneud datganiad ym mis Ionawr” ar ôl ymgynghori â’i chyd-weinidog ac Aelodau o’r Senedd.
Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi ysgrifennu llythyr ati yn gofyn pryd y daw’r datganiad hwnnw.
Ac mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 y “bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ddiwedd y mis”.
Ac fe wnaeth y Prif Weinidog addewid ar raglen Pawb a’i Farn neithiwr i daclo tai haf yn nhymor nesa’r Senedd, os fydd o’n parhau yn ei swydd.
Dywedodd Mark Drakeford ar y rhaglen: “Os ydyn ni’n mynd i ddefnyddio’r system gynllunio a rhoi mwy o bwerau i Awdurdodau Lleol ddelio â’r mater, bydd yn rhaid deddfu… does dim digon o amser ar ôl yn nhymor presennol y Senedd i ddeddfu”.
“Amddifadu teuluoedd o gartrefi yn ein cymunedau”
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn bryderus na fydd yna sylw i’r mater yn y Senedd fis yma.
“Rydym eisoes yn ail hanner mis Ionawr, ac ni allwn weld unrhyw gyfeiriad ym musnes y Senedd am y pythefnos nesaf at ddatganiad gan y Gweinidog,” meddai Mabli Siriol.
“Ond mae camau brys y gellir eu cymryd ar unwaith, ac ni allwn fforddio parhau i golli ein stoc tai ac amddifadu teuluoedd o gartrefi yn ein cymunedau. Yr ydym yn aros am ddyddiad ar gyfer y datganiad a addawyd.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y peth iawn a chymryd camau brys er budd ein cymunedau.”
Rali argae Tryweryn
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn trefnu rali er mwyn galw ar gynghorau sir i gael y pŵer i reoli’r farchnad dai mewn ardaloedd gwledig.
Bydd y rali ‘Nid yw Cymru ar werth’ ym mis Mai ar hyd argae Tryweryn ger y Bala lle boddwyd cymuned wledig Gymreig Capel Celyn 55 mlynedd yn ôl.
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.