Mae Llywodraeth Cymru wedi creu rhagor o fesurau i geisio atal lledaeniad y coronafeirws mewn archfarchnadoedd a gweithleoedd.
O dan y gyfraith newydd bydd rhaid i archfarchnadoedd gyfyngu ar nifer y siopwyr sydd yn y siop ar unwaith.
Daw hyn yn dilyn cwynion fod rhai pobol yn mynd i siopa heb drafferth gwisgo mwgwd, ac yn sarhau gweithwyr siop fu’n gofyn iddyn nhw gadw at y rheolau.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd rhaid i fusnesau yng Nghymru, sy’n cyflogi pump neu fwy o bobol, gynnal asesiad risg penodol sy’n ymwneud â’r coronafeirws.
Y gobaith yw bydd yr asesiadau risg yn fan cychwyn ar gyfer gweithredu’r mesurau sy’n ofynnol er mwyn lleihau’r cyswllt rhwng pobol mewn llefydd fel archfarchnadoedd a gweithleoedd eraill.
Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:
- awyru digonol
- hylendid
- cadw pellter cymdeithasol
- defnydd o gyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb.
Bydd yr asesiad risg hefyd yn ystyried sut mae modd i gyflogwyr sicrhau bod cymaint â phosibl o bobol yn gweithio o gartref.
‘Mor ddiogel â phosibl i siopwyr’
Eglurodd y Prif Weinidog nad oedd dewis ond edrych eto ar reoleiddio gweithleoedd ac eiddo sy’n parhau ar agor i’r cyhoedd, oherwydd yr amrywiolyn newydd o’r feirws.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr, undebau llafur, Awdurdodau Lleol a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i ystyried y manylion am sut i gadw lleoliadau gwaith yn ddiogel,” meddai Mark Drakeford.
“Mae Gweinidogion wedi cyfarfod yr wythnos hon gyda manwerthwyr allweddol i drafod eu rôl hanfodol yn ystod y pandemig. Maent yn nodi’r camau maent yn eu cymryd, o ddarparu diheintyddion ar gyfer dwylo a throlïau wrth fynd i mewn i siopau; cyfyngu ar y niferoedd yn y siop ar unrhyw un adeg; a gwneud cyhoeddiadau rheolaidd yn atgoffa pobol i gadw pellter oddi wrth bobol eraill.
“Byddwn yn cryfhau’r rheoliadau i sicrhau bod manwerthwyr yn cymryd y camau hyn fel bod eu heiddo mor ddiogel â phosibl i siopwyr a hefyd i’w cyflogeion. Mae llawer eisoes yn gweithredu safonau uchel ac mae angen i ni godi’r safon ar gyfer y rhai a allai ac a ddylai wella.
“Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb allweddol i helpu i wneud siopau mor ddiogel â phosibl. Rhaid i bob un ohonom ni siopa ar ein pen ein hunain os gallwn ni, cadw at y rheol 2m, ymarfer hylendid dwylo da a gwisgo gorchudd wyneb oni bai eich bod wedi’ch eithrio.”
Cyfrifoldeb perchnogion a rheolwyr
Eglurodd y Prif Weinidog mai cyfrifoldeb perchnogion a rheolwyr fydd hi i roi’r mesurau newydd ar waith.
“Mae popeth rydym ni wedi cyhoeddi heddiw yn nwylo pobol sydd yn rheoli archfarchnadoedd a llefydd eraill,” meddai.
“Mae’n hollol annerbyniol i bobol sy’n gweithio mor galed, ac sydd wedi rhoi gwasanaeth i ni gyd ledled y pandemig ddioddef pobol yn bod yn gas ac yn afresymol.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn ail asesu’r cyfyngiadau ddiwedd y mis, Ionawr 29.