Mae dros 6,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganslo asesiadau sy’n cael eu marcio’n allanol ar gyfer Lefel A a TGAU yn 2021.

Dechreuodd myfyriwr Lefel A ymgyrch i gael gwared ar unrhyw asesiadau allanol yng Nghymru eleni, gan alw am roi’r hawl i athrawon benderfynu ar raddau’r disgyblion.

Mae plant a phobol ifanc yn annhebygol o ddychwelyd i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth yng Nghymru tan ddiwedd mis Ionawr ar y cynharaf.

Dywedodd Cai Parry, sy’n 17 oed ac yn byw yng Nghaerdydd ac yn gofalu am aelod o’r teulu, wrth y BBC fod meddwl am unrhyw asesiadau allanol yn “ysgogi panig”.

“Rwy’n blentyn sy’n gofalu am aelod o fy nheulu ac mae’r amser y bu’n rhaid i mi ei roi i mewn i hynny wedi cynyddu’n sylweddol oherwydd y pandemig ac mae’n cyrraedd pwynt lle mae’n amharu ar fy ngallu i astudio,” meddai’r disgybl Lefel A.

“Dydw i ddim yn mynd i fod yn mynd i mewn i’r asesiadau hynny gyda’r un math o gyfleoedd â phawb arall, ac nid yw’n mynd i arwain at gael gradd deg.”

Cefndir

Ym mis Rhagfyr, cadarnhaodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, fanylion cynllun lle byddai myfyrwyr yn cael graddau yn seiliedig ar gymysgedd o asesiadau mewnol ac allanol, yn hytrach nag arholiadau diwedd blwyddyn.

Ond yn dilyn cyhoeddi’r symudiad i ddysgu o bell yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth y rheoleiddiwr arholiadau Cymwysterau Cymru ganslo cyfnod y gwanwyn o “asesiadau mewnol” ar gyfer disgyblion TGAU, UG a Lefel A, a fyddai wedi cael eu marcio gan athrawon.

Fodd bynnag, mae’r asesiadau allanol, a gaiff eu marcio gan y bwrdd arholi, yn dal i gael eu cynnal rhwng Mai 17 a Mehefin 29.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am ganslo’r profion allanol.

Dywedodd y llefarydd Addysg Siân Gwenllïan y byddai hyn yn “synhwyrol, ymarferol a theg” ac yn “system amgen gwbl ddilys”.

“Mae’r plant wedi cael cymaint o darfu ar eu haddysg yn barod eleni, ac mae rhai plant wedi cael mwy o aflonyddwch nag eraill,” ychwanegodd.

“Addasu”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai grŵp cynghori nawr yn ystyried sut i “adeiladu ar y cynigion a’u haddasu” er mwyn “cefnogi lles a chynnydd dysgwyr”.

“Mae’r Gweinidog [Addysg] hefyd yn trafod gyda grwpiau perthnasol, gan gynnwys pobol ifanc a bydd yn rhoi diweddariad pellach cyn gynted â phosib”.

Dim ond athrawon all asesu cyflawniad pob disgybl

Huw Onllwyn

“Mae addysg wedi bod yn lled anobeithiol eleni,” meddai Huw Onllwyn

 

Asesiadau safon uwch a TGAU i ddechrau fis Chwefror

Bydd asesiadau mewnol yn cael eu cynnal rhwng Chwefror ac Ebrill ac asesiadau allanol yn cael eu cynnal rhwng Mai a Mehefin

Lloegr yn disodli arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn gydag asesiadau athrawon

Pob gwlad yn y Deyrnas Unedig bellach wedi canslo arholiadau’r haf