Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud “cynnydd da” tuag at gyrraedd y targed o frechu’r bobol hynny sy’n cael blaenoriaeth erbyn canol mis nesaf, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Mae 126,375 o bobl bellach wedi cael eu brechlyn cyntaf ac mae disgwyl i’r cyflenwad gynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd nifer y canolfannau brechu nawr yn cynyddu i 45 – y targed gwreiddiol oedd 35.
“Rydyn ni’n gwneud cynnydd da tuag at ein carreg filltir o gynnig y brechlyn i holl weithwyr y rheng flaen a gweithwyr gofal; pawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a phawb dros 70 oed erbyn canol mis Chwefror,” meddai Mark Drakeford.
“Dros yr wythnos ddiwethaf, mae 10,000 o bobl y dydd ar gyfartaledd wedi cael eu brechu wrth i’r rhaglen gyflymu.
“Rydyn ni’n disgwyl cyflenwadau o’r brechlyn i gynyddu yn yr wythnosau nesaf a bydd hynny yn ein caniatáu i gynyddu cyflymdra’r rhaglen frechu.
“Rydyn ni angen cyflenwad rheolaidd a dibynadwy er mwyn parhau gyda’n hymdrechion brechu wrth i ni symud ymlaen.”
Yn y cyfamser mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Cymreig bod “nifer sylweddol” o frechlynnau covid yng Nghymru heb eu defnyddio eto.
Targedau brechu Llywodraeth Cymru
Dyma’r amserlen ar gyfer brechu…
- Erbyn canol mis Chwefror:
- Preswylwyr a staff cartrefi gofal
- Staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pobol dros 70 oed
- Pobl sy’n agored i niwed clinigol
- Gwanwyn: Pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol.
- Hydref: Pob oedolyn cymwys arall yng Nghymru.
Ddwywaith yn uwch na’r don gyntaf
Roedd nifer y cleifion mewn ysbytai gyda covid yr wythnos ddiwethaf ddwywaith yn uwch nag yn ystod y don gyntaf y llynedd.
Eglurodd Mark Drakeford fod y Gwasanaeth Iechyd wedi gorfod cynyddu’r capasiti i ymateb i’r galw, sy’n cael effaith ar y gallu i ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn rhai brys.
“Mae nifer y bobl mewn gwelyau gofal critigol gyda coronafeirws bron yr un fath â nifer y gwelyau gofal dwys sydd gennym fel arfer ar gyfer Cymru gyfan,” meddai.
“Ac – yn anffodus iawn – yr wythnos hon, fe wnaethom basio 5,000 o farwolaethau a gofnodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.”
Ffigurau diweddaraf
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod 54 yn rhagor wedi marw o Covid-19, gan ddod a’r cyfanswm i 4,171 yng Nghymru.
Cofnodwyd 1,808 o achosion newydd hefyd, gan ddod a’r cyfanswm i 177,864.
Darllen mwy
- Fferyllfa yn Llanbedrog yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig brechlyn Covid-19
- Galw am ddosbarthu brechlyn Covid-19 yn ôl y galw yn hytrach nag yn ôl y boblogaeth
- Newid y bwlch rhwng dau ddos y brechlyn ‘yn osgoi mwy o farwolaethau’