Mae daeargryn cryf wedi taro ynys Sulawesi yn Indonesia, gan ddymchwel cartrefi ac adeiladau, achosi tirlithriadau a lladd o leiaf 34 o bobl.
Ac fe gafodd mwy na 600 o bobol eu hanafu yn ystod y daeargryn maint 6.2 ar y raddfa richter, a achosodd i bobol ffoi o’u cartrefi ychydig ar ôl hanner nos ddydd Gwener (Ionawr 15).
Mae awdurdodau’n dal i gasglu gwybodaeth am raddfa’r difrod yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, yn sgil adroddiadau am lawer o bobol sy’n gaeth dan rwbel ac adeiladau a ddymchwelwyd.
Cafodd miloedd o bobol eu rhuthro i lochesi dros dro.
Dywedodd yr awdurdodau fod o leiaf 300 o dai a chlinig iechyd wedi’u difrodi a bod tua 15,000 o bobol mewn llochesi dros dro yn yr ardal. Roedd y pŵer a’r ffonau i lawr mewn sawl ardal.
“Ras yn erbyn amser”
Dywedodd un achubwr, Saidar Rahmanjaya, fod diffyg offer yn llesteirio’r gwaith o glirio’r rwbel o dai ac adeiladau a ddymchwelwyd.
Aeth ymlaen i ddweud bod ei dîm yn gweithio i achub 20 o bobol sy’n styc mewn wyth adeilad, gan gynnwys yn swyddfa’r llywodraethwr, ysbyty a gwestai.
“Mae’n ras yn erbyn amser i’w hachub,” meddai.