Mae teulu dyn a fu farw mewn damwain car ar yr A465 ger Glyn Nedd nos Lun (Ionawr 11) wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Jac Williams, o Dreorci, ar ôl i’r Ford Fiesta gwyn yr oedd yn ei yrru adael y ffordd wrth iddo deithio tua’r gogledd rhwng Glyn Nedd a Hirwaun am tua 4.50 y pnawn.
Wrth dalu teyrnged i’r dyn 19 oed, dywedodd ei deulu: “Does dim geiriau i ddisgrifio faint roedd Jac yn ei olygu i ni fel teulu, ac mae’r dyddiau diwethaf wedi dangos ei fod wedi cyffwrdd bywydau pawb oedd yn ei adnabod yn llawer mwy nag a sylweddolon ni erioed.
“Roedd Jac yn ffrind i bawb ac yn caru dim byd mwy na gwneud i bobol wenu. Cawr tyner gyda chalon o aur; roedd ein byd yn lle gwell gydag ef ynddo.
“Roedd gan Jac ddyfodol disglair o’i flaen. Roedd wrth ei fodd gyda phêl-droed, yn enwedig Abertawe, ac roedd yn gôl-geidwad talentog.
“Un o’i gyflawniadau mwyaf oedd cael ei ddewis i chwarae i dîm Clybiau Bechgyn a Merched Cymru.
“Fodd bynnag, nid oedd hynny hyd yn oed yn cymharu â’r balchder a deimlai pan ddaeth ef a’i gariad, Shania, yn rhieni i’w mab, Oli-John.
“Er ein bod yn dal i geisio dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd, rydym wedi cael ein llethu gan gariad a chefnogaeth aelodau’r gymuned.
“Mae darllen y negeseuon, a chlywed atgofion pobol eraill o Jac, wedi dod â chysur mawr i ni dros y dyddiau diwethaf, a gobeithiwn eu rhannu gydag Oli-John yn y dyfodol er mwyn iddo wybod pa mor annwyl oedd ei dad.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r ddamwain ac yn apelio ar unrhyw dystion i’w ffonio.
Byddai’r heddlu hefyd yn hoffi clywed gan unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y cerbyd cyn y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau dash-cam a allai gynorthwyo’r ymchwiliad.