Mae angen rheolau llymach ar gyfer archfarchnadoedd yng Nghymru oherwydd “tystiolaeth sylweddol” bod coronafeirws yn lledaenu ymhlith cwsmeriaid a staff, meddai’r Prif Weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i fanwerthwyr bellach arddangos arwyddion ymbellhau cymdeithasol, darparu glanweithydd ar gyfer dwylo a trolïau, a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid a ganiateir y tu mewn ar unrhyw un adeg.

Mae’r rheolau newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener (15 Ionawr) yn rhan o becyn o fesurau newydd yn dilyn pryderon bod amrywiolyn cyflymach o Covid-19 y tu ôl i gynnydd sydyn mewn trosglwyddiadau ledled Cymru.

Mae manwerthwyr hanfodol fel archfarchnadoedd eisoes wedi bod yn destun cyfarwyddyd er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bydd pethau fel sicrhau bod systemau un ffordd yn cael eu defnyddio a rheoli llif cwsmeriaid bellach yn cael eu rhoi mewn cyfraith.

Dywedodd Mr Drakeford fod hyn mewn ymateb i bryderon bod yr “arwyddion gweladwy o ddiogelwch” mewn siopau wedi lleihau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac i roi hyder i staff a siopwyr.

“Mae llawer o’n manwerthwyr eisoes yn gweithredu’n unol a’r safonau uchel hyn. Beth mae hyn yn ei wneud yw ei gwneud yn glir y bydd y bar hwnnw’n cael ei godi fel bod pob lle y gall pobl siopa yn bodloni’r safonau hynny,” meddai.

“Cyfrifoldeb perchnogion a rheolwyr”

Mae Mr Drakeford wedi dweud mai “cyfrifoldeb perchnogion a rheolwyr” yw sicrhau bod rheolau yn cael eu dilyn.

Dywedodd na ddylai’r cyfrifoldeb ddisgyn i weithwyr archfarchnadoedd yn dilyn adroddiadau bod rhai yn cael eu cam-drin am geisio gorfodi rheolau presennol.

“I fod yn gwbl glir, mae’n gwbl annerbyniol bod staff manwerthu sydd wedi gwneud cymaint i’n helpu ni i gyd yn ystod y pandemig hwn – mynd i’r gwaith bob dydd i wneud yn siŵr bod bwyd y gallwn ei roi ar y bwrdd – mae’n gwbl annerbyniol y dylai’r bobl hynny wynebu camdriniaeth yn y gweithle,” meddai.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd yn rhaid i asesiadau risg Covid-19 penodol gael eu cynnal gan unrhyw fusnes sy’n cyflogi pump neu fwy o bobl i helpu i atal y straen newydd rhag lledaenu.

Maent yn cynnwys pethau fel sicrhau awyru digonol, sicrhau bod pobl yn ymbellhau’n gorfforol ac yn defnyddio cyfarpar diogelu personol, ac ystyried a all eu gweithwyr weithio gartref.

“Ychydig o lacio”

Dywedodd Mr Drakeford wrth y gynhadledd ddydd Gwener y gallai fod “ychydig o lacio” i’r cyfyngiadau yng Nghymru os bydd cyfraddau’n parhau i ostwng, gyda chyfradd y wlad wedi gostwng i 365 o achosion fesul 100,000 o bobl o gymharu â “tipyn mwy” na 400 o achosion fesul 100,000 wythnos yn ôl.

“Yn sicr, ni fyddwn yn gweld gostyngiadau yn nifer y bobl sydd mewn ysbytai mor gyflym a’r gostyngiad yn y gymuned oherwydd ein bod yn gwybod bod oedi bob amser,” meddai.

“Hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu mynd o Lefel 4 i Lefel 3, o fewn Lefel 4 efallai y bydd yn bosibl – ac mae’n bosibl, rwyf wir eisiau pwysleisio ei bod ond yn bosibl – cael peth llacio ymylol a byddai hynny’n dangos i bobl bod yr ymdrechion y maent yn eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth.”

 

“Cynnydd da” o ran cyrraedd targedau brechu, meddai Mark Drakeford

“Dros yr wythnos ddiwethaf, mae 10,000 o bobl y dydd ar gyfartaledd wedi cael eu brechu wrth i’r rhaglen gyflymu”